'After Trident: Peace and Proliferation?'

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

23 Ebrill 2007

Dydd Llun 23 Ebrill 2007
Darlith Flynyddol Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies
‘After Trident: Peace and Proliferation?'
Bydd y newyddiadurwr a'r awdur enwog John Gittings yn traddodi Darlith Flynyddol 2007 Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ddydd Mercher 25 Ebrill. Cynhelir y ddarlith, a fydd yn agored i’r cyhoedd, yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth, a bydd yn dechrau am 6.00 y.h.

Mae Sefydliad Coffa David Davies yn rhan o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a gafodd ei chreu yn y lle cyntaf fel cyfrwng i ddod ag academyddion ac ymarferwyr ynghyd, ac mae’r Ddarlith Flynyddol a Chyfres Darlithoedd y Sefydliad ar Faterion o Bolisi Cyhoeddus yn dangos manteision rhyngweithio o’r fath wrth geisio deall yr heriau pwysicaf.

‘After Trident: Peace and Proliferation?’
Mewn crynodeb o’r ddarlith ysgrifennodd John Gittings:
“Mae penderfyniad llywodraeth Prydain i adnewyddu Trident yn rhan o wrthodiad ehangach o’r agenda heddwch a pheidio amlhau arfau niwclear. Mae yna berygl y bydd y Cytundeb i Beidio Amlhau Arfau Niwclear (Non Nuclear Proliferation Treaty (NPT)) yn dadfael yn llwyr y tro nesaf y bydd yn cael ei adolygu; mae pwerau niwclear newydd yn gosod y cyflymdra i eraill; mae bygythiad o ‘ryfel’ newydd fydd yn parhau ‘am genedlaethau’. Ni chafwyd difidend heddwch ar ôl y rhyfel oer ac aeth y cyfle i wneud iawn am yr amser a gollwyd heibio. Rhyfel, yn hytrach na heddwch, a ystyrir yn gyflwr naturiol unwaith eto.

Mae’n amlwg erbyn hyn nad yw’r dadleuon traddodiadol o blaid heddwch ac yn erbyn amlhau arfau yn mynd i lwyddo byth. Bydd y farn “nad oes modd rhagweld yr anrhagweladwy”, a ddefnyddiwyd i gyfiawnhau adnewyddu Trident, yn arwain at wneud penderfyniadau ar sail y senario waethaf bob tro. Mae angen datblygu dadleuon newydd sydd ag apêl ehangach. wedi eu seilio, nid yn unig ar ddadansoddiad strategol ond ar fydolwg amgen, grymus.

Drwy edrych ymlaen ac yn ôl drwy hanes mae rhaid i ni ailddarganfod heddwch, yn hytrach na rhyfel, fel diddordeb canolog dynoliaeth. Yn yr un modd ag y bu brenin yn cael ei farnu yn ôl ei allu i gynnal heddwch ym mhedwar ban ei deyrnas,  felly dylai gwladwriaethau modern rannu’r cyfrifoldeb i ymarfer llywodraeth dda ledled y byd. Bydd yr ymdrech i ail-lunio ein hamcanion cyffredin yn gofyn am ymdrech barhaol i ail-addysgu’r arweinwyr ac ysbrydoli’r tyrfaoedd.”

Mae John Gittings yn newyddiadurwr o fri (ef oedd arbenigwr Tseina ac awdur erthyglau golygyddol tramor papur The Guardian rhwng 1982-2003. Ei lyfr diweddaraf yw The Changing Face of China: From Mao to Market (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2005).