Yr Haul mewn 3D

Dr Andy Breen a'i gysgod gyda llun o'r Haul

Dr Andy Breen a'i gysgod gyda llun o'r Haul

23 Ebrill 2007

Dydd Llun 23 Ebrill
Aberystwyth yn cynhyrchu'r lluniau tri dimensiwn cyntaf o'r Haul
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth wedi cynhyrchu y darluniau tri dimensiwn (3D) cyntaf oll o’r haul gan defnyddio data o STEREO (Solar TErrestrial RElations Observatory), taith ofod NASA a gafodd ei lansio yn llwyddiannus yn Hydref 2006.

Mae tîm o beirianwyr yn See3D, cwmni all-droi o’r Brifysgol sy’n darparu gwasanaethau rhithwir ar gyfer diwydiant a’r byd academaidd, wedi datblygu meddalwedd sy’n ei gwneud hi’n bosib i weld delweddau a dynnwyd gan STEREO o fewn 30 eiliad o dderbyn y data. Mae’r datblygiad yn golygu fod gwyddonwyr y Brifysgol ar y blaen i NASA o ran gallu gweld y delweddau mewn 3D llawn.

Cafodd y delweddau eu dangos am y tro cyntaf heddiw, dydd Llun 23 o Ebrill, yn Sefydliad Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol y Brifysgol mewn theatr rhithwir ar offer ‘Fakespace Power Wall’.  Mae See3D hefyd wedi cynhyrchu fersiwn anaglyff sy’n ei gwneud hi’n bosib i weld y delweddau trwy sbectol gyda lensiau coch a gwyrdd, tebyg i’r rhai sydd wedi cael eu defnyddio mewn sinemau i weld ffilmau megis Jaws 3.

Mae Dr Andy Breen yn aelod blaenllaw o Grŵp Ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul yn Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn gyd-ymchwilydd ar offeryn SECCHI y daith (Sun Earth Connection Coronal and Heliospheric Investigation).

Dywedodd:  “Mae wedi bod yn hysbys i ni ar hyd yr amser fod angen i ni astudio’r haul mewn tri dimensiwn er mwyn deall y strwythurau cymhleth yn atmosffer yr haul.  Mae STEREO yn cynnig y cyfle cyntaf i fedru gwneud hyn.  Mae Aberystwyth wedi bod yn rhan o’r cynllunio ar STEREO ers y dyddiau cynnar, a gyda chymorth See3D, rydyn ni nawr mewn sefyllfa wych i fod yn un o’r rhai cyntaf i ddefnyddio’r data.”

“Mae deall data tri-dimensiwn yn gallu bod yn anodd – oni bai eich bod chi’n ei weld mewn tri dimensiwn.  Mae’r technegau taflunio 3D soffistigedig sydd wedi eu datblygu gan Phil Summers ac Andrew Rawlins yn See3D wedi ein galluogi ni i weld strwythur cymhleth atmosffer yr Haul mewn tri dimensiwn am y tro cyntaf.”

Mae gan Aberystwyth gysylltiadau agos iawn gyda’r grŵp ymchwil yn Labordy Rutherford-Appleton sydd wedi arwain gwaith y Deyrnas Gyfunol ar STEREO.  Dyfarnwyd Cadair er Anrhydedd yn Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisgol i Richard Harrison, y prif ymchwilydd ar yr cyfarpar Delweddu Heliosfferig chwildroadol, ac mae Chris Davis, gwyddonydd y prosiect, yn raddedig o Aberystwyth.

 ·         See3D
http://www.see3d.co.uk
Cwmni alldroi o Brifysgol Cymru Aberystwyth yw See3D sydd yn darparu gwasanaethau rithwir ar gyfer cwmnioedd a’r byd academaidd. Mae’r cwmni yn rhan o gynllun £10.4m ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth i adeiladu Canolfan Ddelweddu fydd yn agor yn hydref 2007. Mae’r cynllun wedi derbyn cefnogaeth ariannol o £6m gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, sydd yn cynnwys £4.4 gan gynllun Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd.