Llwyddiant rhagbrawf Pencampwriaethau'r Byd

Y Pencampwr Byd, Ewropeaidd ac Olympaidd, Lee Pearson yn cystadlu yn y ganolfan geffylau

Y Pencampwr Byd, Ewropeaidd ac Olympaidd, Lee Pearson yn cystadlu yn y ganolfan geffylau

27 Ebrill 2007

Dydd Gwener 27 Ebrill, 2007
Llwyddiant rhagbrawf Pencampwriaethau'r Byd
Cafodd y rownd ragbrofol paralympaidd olaf ar gyfer Pencamwriaethau Para Dressage y Byd, ei chynnal yng Nghanolfan Geffylau'r Brifysgol ddydd Sadwrn 28 Ebrill, ac yn ôl y cystadleuwyr a’r beirniad roedd yn llwyddiant mawr. Roedd yr adnoddau a’r trefniadau wedi gwneud argraff ffafriol iawn.

Ymysg y pymptheg cystadleuydd roedd y Pencampwr Byd, Ewropeaidd ac Olympaidd Lee Pearson, fu’n llwyddiannus mewn dau ddosbarthu. Llwyddodd y Gymraes Amnda Say ar gefn Spock, un o geffylau Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, i gipio’r drydedd wobr tu ôl i Lee Pearson, ac enillodd Paula Clarke o Lanymddyfri gystadleuaeth gradd 3.

Dywedodd Carol Green, Rheolwraig y Ganolfan Geffylau;
“Roedd hwn yn ddiwrnod llwyddiannus iawn ac mae’r ymateb rydym wedi ei gael oddi wrth y cystadleuwyr a’r beirniad, a deithiodd o Wiltshire, wedi bod yn gadarnhaol iawn. Cafodd y beirniad cystal argraff fel ei fod yn fodlon ymweld â ni eto, cam pwysig gan taw darbwyllo beirniaid o’r safon uchaf i ddod i Gymru yw un o’r prif anhawsterau.”

“Mae denu un o’r 5 rownd ragbrofol baralympaidd i Aberystwyth yn dipyn o gamp ac roedd yn braf iawn gweld marchog fel Lee Pearson, sydd yn cystadlu ar y safon uchaf i bobl abal o gorff, yma.”

Cystadleuaeth Dressage oedd hon gyda phob cystadleuydd yn derbyn marciau am ymddygiad eu ceffylau mewn profion penodol megis cerdded, trotian, carlamu bach, ac aros. Roedd yn ofynnol i gystadleuwyr oedd yn awyddus i ennill eu lle ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Hartpury ym mis Gorffennaf, sgôrio 70% neu fwy mewn dwy o’r rowndiau rhagbrofol.
Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru gynnal un o rowndiau rhagbrofol Pencampwriaethau’r Byd.

Llwyddiant marchogaeth PCA
Daw’r digwyddiad uchod yn fuan wedi i Dim Marchogaeth PCA ennill yr elfen neidio ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas Chwaraeon Prifysgolion Prydain a’r drydedd safle yn y gystadleuaeth gyfan.

Yn unigol daeth Bea Meitiner, BSc Astudiaeth Cefyllau, yn 9ed yn y gystadeluaeth gyfan ac yn 8ed yn ‘dressage’. Roedd Katherine Allen, BSc Gwyddor Ceffylau, yn 5ed yn y neidio ceffylau. Cafwyd cyfraniadau at lwyddiant y tim gan Saycel, Y Gyfraith, a Jessica Johnson, MSc Gwyddor Ceffylau.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Lincoln rhwng yr 11eg a’r 13eg o Ebrill. Roed hi’n ofynnol i’r cystadleuwyr tim farchogaeth ceffyl anghyfarwydd mewn prawf dressage a chwbhau cwrs neidio a chael eu barnu ar arddull.