Ymgais record byd

Stuart Kershaw

Stuart Kershaw

03 Rhagfyr 2007

Dydd Llun 3 Rhagfyr 2007
Ymgais i dorri record rhwyfo ar draws Môr yr Iwerydd
Mae Stuart Kershaw, a raddiodd mewn Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cyfuno busnes â phleser fel aelod o dîm La Mondiale sydd yn ceisio torri'r record byd am rwyfo ar draws môr yr Iwerydd.

Ffilmio a newyddiaduraeth mewn amgylchiadau eithafol yw arbenigedd Stuart ac mae'n gyfarwyddwr ar In the Dark Productions, cwmni all-droi o Brifysgol Aberystwyth.

Gosodwyd y record bresennol o 35 diwrnod ac 8 awr gan dîm o Lengfilwyr Ffrengig yn 1992.

Yn ogystal â chynhyrchu ffilm am hynt a helynt y tîm bydd Stuart yn rhannu’r baich rhwyfo, 12 awr y dydd, yn union fel pob aelod arall o’r tîm.

Mae dau gwch yn cymryd rhan yn y ras, fydd yn gadael Gran Canaria ddydd Sadwrn 15 Rhagfyr. Gwrthwynebwyr tîm La Mondiale yw’r criw o America, ‘Team Orca’.

Cyn teithio i Gran Canaria, dywedodd Stuart:
“Fel cyfarwyddwr a dyn camera’r fordaith hon rwyf wedi bod yn cofnodi trawsnewidiad y 12 rhwyfwr o ddynion cyffredin i fod yn uwch-athletwyr morwrol. Y cyfan sydd eisiau ei wneud nawr yw eu ffilmio wrth iddynt ymgymryd â un o’r heriau anoddaf ar y Ddaear!”

“Fel rhwyfwr mae wedi bod yn ofynnol i fi gwblhau nifer o brofion corfforol a seicolegol yn llwyddiannus a pharatoi fy hun ar gyfer tonnau mawr 30 troedfedd yr Iwerydd, corwyntoedd ‘force 9’ wrth i ni agosáu at benrhyn y Caribí, a haid o bysgod mawr asgellog fydd yn dilyn y broc môr dynol fyddwn yn gadael ar ein hol wrth i ni groesi.”

“Mae pob aelod o’r criw yn meddu ar arbenigedd.; er enghraifft mae yna lawfeddyg y galon sydd yn gallu gwneud traceotomi gyda weiar hongian dillad! Mae peiriannydd llongau er mwyn delio gydag unrhyw broblemau technegol ar fwrdd y cwch, a capten wrth gwrs, ond yn anffodus does dim cogydd, felly bydd pawb yn gyfrifol am eu coginio eu hunain!” ychwanegodd.

Fel rhan o Raglen All-droi Prifysgol Aberystwyth mae Stuart yn darlithio am ei brofiadau o weithio mewn ardaloedd gelyniaethus ac anghysbell i fyfyrwyr ffilm a theledu’r Brifysgol.Wedi iddo ddychwelyd o’r Caribi bydd yn gallu ychwanegu Ras Rhwyfo Record Byd ar Draws yr Iwerydd i’w restr sydd eisoes yn cynnwys gwaith yn Burma, Palestina, Kashmir ac Alaska.

Mae Stuart yn defnyddio’r daith er mwyn codi arian i elusen Ymddiriedolaeth yr Ymennydd a’r Asgwrn Cefn - The Brain and Spine Foundation. Os ydych am gyfrannu ewch i wefan http://www.justgiving.com/stuartkershaw.

Manylion pellach:
Stuart Kershaw, Cyfarwyddwr, In the Dark Productions Ltd,
Symudol 07890 311 978
E-boststu@inthedarkproductions.co.uk
Y We www.inthedarkproductions.co.uk
Arthur Dafis, Y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth,
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk  

‘Transatlantic World Record Rowing Race’
Ceir manylion llawn ar lein. Ewch i http://www.oceanrowevents.com./

La Mondiale – ystadegau pwysig
Adeiladwyd yn 1991 gan VMG (Ouistreham) mae ‘La Mondiale’ wedi ei hadeiladu o gyfuniad o wydr a charbon mewn brechdan epoxy. Mae’n 15.5m o hyd a 2.8m ar draws a thipyn yn hirach na chwch rhwyfo arferol.  Mae’n pwyso 639 kilo yn wag ac hyd at 3.9 tunnell yn llawn. Cafodd La Mondiale ei defnyddion gan ddeiliaid y record bresennol yn 1992 ond mae wedi ei diweddaru ar gyfer yr ymgais hon.

Y daith
Ychydig dros 3000 o filltiroedd o Gran Canaria i Barbados.

Record wrth wneud profion Môr
Yn ystod profion ar y môr rhwng y 4ydd a’r 7ed o Hydref gosododd criw La Mondiale record newydd am y daith rwyfo ddi-dor hiraf ar Fôr y Gogledd, sef 180 o filltiroedd rwng Lowestoft a Chaeredin.  72 milltir gan griw o Royal Marines oedd y record flaenorol.

Cwmni All-droi Prifysgol Aberystwyth
Gwnaeth cyfarwyddwyr In the Dark Productions Stuart Kershaw a Samantha Fazakerley, dau sydd wedi graddio o Adran Theatr Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, gais llwyddiannus am Ysgoloriaethau Mentro KEF oedd yn werth £5,000 tuag at gostau rhedeg eu busnes yn y dyddiau cynnar. Mae Ysgoloriaethau KEF ar gael i unrhyw un sydd wedi graddio yn ystod y dair blynedd a aeth heibio ac sydd yn awyddus i sefydlu menter uchelgeisiol.

Raglen All-droi Cymru
Er fod In the Dark Productions yn gwmni sydd yn gweithredu yn rhyngwladol, cofrestrwyd y busnes yn Aberystwyth ac mae’n cynnal perthynas agos gyda Adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol. Drwy’r cysylltiad hwn mae gan y busnes berthynas troi-mewn gyda Phrifysgol Aberystwyth ac mae ar Raglen All-droi Cymru sydd wedi darparu benthyciadau cyllid a chefnogaeth ar ffurf cymorth technegol. Mae All-droi hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddi arbenigol i fentrau newydd.

Eginydd Crisalis
Mae In the Dark Productions yn defnyddio cyfleusterau modern Crisalis Prifysgol Aberystwyth – uned egino busnes sydd yn cynnig adnoddau ar gyfer cwmnïoedd sydd ar fin dechrau.  Mae ystod o adnoddau busnes ar gael i gwmnïoedd sydd yn dechrau megis ystafelloedd cyfarfod a llyfrgell fusnes. Gall unrhyw fusnes newydd sydd â chysylltiad gyda’r Brifysgol fanteisio ar adnoddau Canolfan Crisalis.