Cyfrifiaduron newydd i leihau'r defnydd o drydan

Cyfrifiaduron gweithfannau cyhoeddus

Cyfrifiaduron gweithfannau cyhoeddus

14 Rhagfyr 2007

Dydd Gwener 14 Rhagfyr 2007
Cyfrifiaduron newydd i leihau'r defnydd o drydan

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cwblhau'r gwaith o osod 550 o gyfrifiaduron personol newydd yn eu lle, datblygiad a fydd o bwys i fyfyrwyr oherwydd eu bod yn llawer fwy pwerus, ac o fudd i’r amgylchedd gan eu bod yn defnyddio llawer llai o drydan.

Darparwyd y cyllid ar gyfer y buddsoddiad, cyfanswm o £277,000, i adran Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol gan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru fel rhan o’r rhaglen Cyllid Cyfalaf ar gyfer Dysgu ac Addysgu ac Isadeiledd Technoleg Gwybodaeth 2006-7 a 2007-8.  
Yn ôl Mr Roger Matthews, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth, mae’r cyfrifiaduron newydd hefyd yn ei gwneud yn llawer hawddach i’r Brifysgol gyflawni ei hymrwymiadau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. “Mae’r datblygiad hwn yn golygu ein bod wedi gallu newid pob cyfrifiadur mewn stafelloedd gweithio cyhoeddus a rhoi rhai llawer mwy pwerus yn eu lle, a sgriniau llawer gwell sydd yn ei gwneud hi’n llawer hawddach i bobl sydd ag anhawster gweld i addasu maint y llythrennau ac ati yn unol â’u gofynion.”

“Cafwyd manteision pellach yn sgil gosod y cyfrifiaduron newydd gan eu bod angen llawer llai o le ar y byrddau ac felly’n cynnig amgylchedd weithio fwy cyfforddus i’r myfyrwyr. Yn ogystal, gan fod pob un o’r cyfrifiaduro yr un math, mae darparu cymorth peirianyddol ar eu cyfer yn llawer fwy syml,” ychwanegodd.

Yn ei gyfanrwydd mae’r cyfrifiaduron newydd yn defnyddio llai o drydan na’u rhagflaenwyr ac mae cynlluniau ar y gweill i’w diffodd pan na fyddant yn cael eu defnyddio gan arbed mwy o ynni. Er eu bod yn defnyddion Windows XP ar hyn o bryd, byddant yn mudo i sustem weithredu Microsoft Vista yn ystod haf 2008.