Defnyddio llai o bapur

Peiriant Llungopio

Peiriant Llungopio

14 Rhagfyr 2007

Dydd Gwener 14 Rhagfyr 2007
Prifysgol yn lleihau'r defnydd o bapur

Mae offer argraffu cyhoeddus newydd wedi ei osod gan Brifysgol Aberystwyth er mwyn lleihau gwastraff papur a darparu gwasanaeth gwell i'r myfyrwyr.

Disgwylir i’r peiriannau argraffu newydd, sydd hefyd yn llungopïo, arbed tua hanner miliwn o ddalenni papur y flwyddyn, gostyngiad o 20% o leiaf.

Mae’r peiriannau argraffu wedi eu gosod yn ystafelloedd gweithio cyhoeddus a llyfrgelloedd y Brifysgol ac yn medru argraffu ar ddwy ochr A3 ac A4. Mae deg ohonynt yn argraffu mewn lliw yn ogystal â du a gwyn.

Mewn datblygiad pellach er lles yr amgylchedd, penderfynwyd taw dim ond papur wedi ei ailgylchu fydd yn cael ei ddefnyddio yn y peiriannau argraffu yma.

Jeremy Perkins a Kerr Gardiner o adran Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol sydd wedi bod yn gyfrifol am oruchwilio’r prosiect hwn. Dywedodd Jeremy;
“Yn ystod y flwyddyn academaidd 2006/7 defnyddiwyd tua 2.5 miliwn o ddalenni o bapur gan y staff a myfyrwyr. Drwy fabwysiadu tri cham syml rydym yn disgwyl gallu lleihau’r ffigwr hwn i tua 2 filiwn.
·         Bydd dogfen yn cael ei hargraffu pan fydd person yn barod i’w chasglu. Golyga hyn nad oes angen tudalen ‘Banner’ i adnabod y perchennog.
·         Mae’r peiriannau newydd i gyd yn argraffu a’r ddwy ochr o’r papur. Mae rhaid gwneud cais penodol am gael argraffu ar un ochr y ddalen yn unig.
·         O dan y sustem flaenorol ni chasglwyd nifer o’r dogfennau oedd wedi eu hargraffu. Drwy orfodi’r perchennog i fynd at y peiriant argraffu y gobaith yw ei bod nhw wir angen y ddogfen.”

“Penderfynwyd defnyddio papur wedi ei ailgylchu ym mhob un o’r peiriannau yma gan ei bod bellach yn bosibl cael hyd i bapur wedi ei ail gylchu o safon ac am bris sydd yn cymharu’n ffafriol iawn gyda’r papur newydd yr oeddwn yn ei brynu o’r blaen”, ychwanegodd.

Mae’r peiriannau newydd yn arbed ynni yn ogystal gan eu bod yn diffodd eu hunain wedi cyfnod penodol o segurdod. Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn monitro’r cyfaddawd gorau rhwng y nodwedd hon a’r anhawster i ddefnyddwyr o orfod aros i’r peiriant gynhesu o’r newydd.