Aberystwyth yn ymuno â grwp newydd o Brifysgolion

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

05 Chwefror 2007

Dydd Llun 5 Chwefror 2007
Aberystwyth yn ymuno â grwp newydd o Brifysgolion                                          
Mae Aberystwyth yn un o 24 Prifysgol sydd wedi ffurfio Cynghrair y Prifysgolion, y pedwerydd grŵp cenhadaeth prifysgolion, gafodd ei lansio ddydd Iau 25 Ionawr.

Mae'r gyngrhair newydd, sydd hyd yma wedi cyfarfod yn anffurfiol o dan yr enw Cyngrhair y Prifysgolion Amhleidiol ac a ffurfiwyd llynedd, yn gyfuniad o brifysgolion a sefydlwyd cyn ac ar ôl 1992 ond nad oedd yn aelodau o un o'r grwpiau cenhadol eraill; Grŵp Russell, y Grŵp 94 na’r CMW (Campaigning for Mainstream Universities).

Cadeirydd Cynghrair y Prifysgolion yw’r Athro John Craven, Is-Ganghellor Prifysgol Portsmouth. Dywedodd taw sefydliadau oedd â portfolio cytbwys o ymchwil, dysgu, menter a dyfeisgarwch wrth galon eu cenhadaeth oedd aelodau’r gynghrair, a’i bod yn bwysig fod gan y prifysgolion yma lais mewn trafodaethau cenedlaethol.

“Mae’r gydnabyddiaeth gynyddol sydd wedi dod i ran Cynghrair y Prifysgolion Amhleidiol wedi ei gwneud yn bwysig ein bod yn dod at ein gilydd i sefydlu strwythyr mwy ffurfiol.  Mae llawer her yn wynebu’r sector addysg uwch ac mae’n hanfodol fod cyfle i’r prifysgolion sydd yn aelodau o’r Gynghrair fynegu barn a chyfrannu i bob agwedd o’r drafodaeth gyhoeddus.”

Mae’r grŵp wedi cyfarfod pedair gwaith ers ei sefydlu fis Ebrill llynedd. Ar y dechrau bydd yn canolbwyntio ar faterion megis methydoleg yr Ymarfer Asesiad Ymchwil, cyllido dysgu a’r agenda 14-19.

“Mae hwn yn gyfle gwych i sefydliadau cryf ddod at eu gilydd a chael un llais ar ystod o bynciau sydd yn ymwneud ag Addysg Uwch,” dywedodd yr Athro Craven.

“Mae nifer o sefydliadau dylanwadol yn y sector ganol hon sydd yn rhan holl-bwysig o’r cyfraniad mae Addysg Uwch yn ei wneud i ffyniant y wlad”.

Dywedodd yr Athro Lloyd:
“Rwy’n falch iawn fod Cynghrair y Prifysgolion wedi ei lansio ac fod Aberystwyth aelod. Mae’n bwysig fod prifysgolion yn ymateb ag un llais i faterion sydd yn effeithio arnynt.  Wrth wneud hyn mae’n cryfhau eu safbwynt ac yn cynyddu eu dylanwad ar ddatblygiadau polisi.”
Aelodau Cynghrair y Prifysgolion yw; Aberystwyth, Bournemouth, Bradford, Cranfield, De Montfort, Hertfordshire, Huddersfield, Institute of Education, Caint, Lincoln, Liverpool John Moores, Manchester Metropolitan, Casnewydd, Northumbria, Nottingham Trent, Y Brifysgol Agored, Oxford Brookes, Plymouth, Portsmouth, Salford, Sheffield Hallam, UWIC, Gorllewin Lloegr.