Seren 'Big Brother' i ymweld â llyfrgell y Brifysgol

01 Chwefror 2007

Bydd y seren deledu realaeth, Glyn Wise, yn ymweld â Llyfrgell Hugh Owen ddydd Mawrth 6ed Chwefror fel rhan o ymgyrch led-led Cymru i annog mwy o bobl i ddefnyddio ei llyfrgelloedd lleol.

'Most People are Other People'

12 Chwefror 2007

Mae'r Ysgol Gelf yn cynnal arddangosfa o waith yr arlunydd Stuart Pearson Wright sydd yn cynnwys lluniau o actorion enwog megis Timothy Spall, Sian Phillips, Jeremy Irons a John Hurt. Mae'r arddangosfa yn para tan yr 11eg o Fai.

“Territorial identities and boundaries in a borderless world”

14 Chwefror 2007

Bydd yr Athro Anssi Paasi o Adran Daearyddiaeth Prifysgol Ouluof, y Ffindir, yn traddodi Darlith Gregynog heddiw, dydd Mercher 14eg o Chwefror, yn narlithfa A12 yn Adeilad Hugh Owen am 7 yh.

'Environmentalism and Social Justice: When do they coincide, when do they collide?

21 Chwefror 2007

Bydd George Monbiot yn traddodi darlith Sir D O Evans ddydd Mercher 21ain Chwefror am 7 o'r gloch yn narlithfa A12 yn Adeilad Hugh Owen. Croeso cynnes i bawb.

Sir John Houghton i ddarlithio ar newid hinsawdd

21 Chwefror 2007

Cynhelir y ddarlith am 5 o'r gloch yn y Brif Ddarlithfa Ffiseg yn Adeilad y Gwyddorau Ffisegol ddydd Mercher 21ain o Chwefror.

Dysgu Gyda'n Gilydd

22 Chwefror 2007

Bydd y cynllun addysg cymunedol, Dysgu Gyda'n Gilydd, yn lansio cyfres o gyrsiau blasu yn ardal Penuwch ar y 5ed o Fawrth. Dechreuodd y cynllun flwyddyn yn ôl gyda'r nod o ddatblygu cyrisau mewn deg ardal yng Ngheredigion a chofrestru 140 o fyfyrwyr o fewn dwy flynedd.

Aberystwyth yn ymuno â grwp newydd o Brifysgolion

05 Chwefror 2007

Mae Aberystwyth yn un o 24 Prifysgol sydd wedi ffurfio Cynghrair y Prifysgolion, gafodd ei lansio ddydd Iau 25 Ionawr.