'Environmentalism and Social Justice: When do they coincide, when do they collide?

George Monbiot

George Monbiot

21 Chwefror 2007

Dydd Mercher 21Chwefror 2007
Darlith Sir D O Evans
‘Environmentalism and Social Justice: When do they coincide, when do they collide?'
Bydd George Monbiot yn traddodi darlith Sir D O Evans ddydd Mercher 21ain Chwefror am 7 o'r gloch yn narlithfa A12 yn Adeilad Hugh Owen. Pwnc ei ddarlith yw ‘Environmentalism and Social Justice: When do they coincide, when do they collide?’ Mae croeso cynnes i bawb.

Mae George Monbiot yn golofnydd wythnosol i bapur newydd y Guardian, yn newyddiadurwr adain chwith, awdur, academydd a gweithredwr amgylcheddol a gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Stowe yn ‘Buckinghamshire’ yna Coleg Brasenose, Rhydychen lle astudiodd Swoleg. Ar ôl graddio, ymunodd gyda Uned Hanes Naturiol y BBC fel cynhyrchydd radio, gan wneud rhaglenni hanes naturiol ac amgylcheddol.  Ar ôl gadael y BBC, gweithiodd fel newyddiadurwr ymchwil gan deithio i Indonesia, Brazil a Dwyrain Affrica. 

Arweiniodd ei weithredoedd iddo gael ei wneud yn persona non grata mewn dwy wlad a chael ei ddedfrydu i garchariad oes in absentia yn Indionesia.  Daeth yn ôl i weithio ym Mhrydain ar ôl cael ei gyhoeddi’n glinigol farw mewn ysbyty yn Kenya, ar ôl dal malaria ymenyddol.

Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf Poisoned Arrows yn 1989 ac ers hynny mae wedi cyhoeddi chwech o lyfrau.  Ei lyfr diweddaraf yw Heat: How to Stop the Planet Burning a gyhoeddwyd yn 2006.  Mae Monibot yn dadlau yn y llyfr hwn fod 90% o ostyngiad mewn gollyngiad carbon yn angenrheidiol mewn gwledydd datblygiedig er mwyn osgoi newidiadau enbyd i’r hinsawdd.

Mae’n briod gyda Angharad Penrhyn Jones ac mae ganddynt un ferch, Hanna.