Gwasanaeth Coffa Dr Catrin Prys Jones

Dr Catrin Prys Jones

Dr Catrin Prys Jones

03 Ionawr 2006

Dydd Mercher 3 Ionawr 2007
Dr Catrin Prys Jones
Cynhelir gwasanaeth coffa i Dr Catrin Prys Jones, a fu farw ym mis Hydref 2006, ddydd Sadwrn 6ed Ionawr 2007 amd 1.30yp yng Nghapel Hyfrydle, Caergybi. Yn dilyn y gwasanaeth cynhelir derbyniad yng Ngwesty'r Valley, Ffordd yr Orsaf, Y Fali, Sir Fôn. Roedd Catrin yn aelod o staff Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. I'r rhai sydd yn dymuno gwneud cyfraniadau er cof am Catrin gellir gwneud hynny i Uned Gofal Dwys Ysbyty Bronglais.

Yn dilyn ei marwolaeth talwyd y deyrnged ganlynol iddi gan yr Athro Elan Closs Stephens.

Catrin Prys Jones

Gofynnwyd i mi, ar ran cydweithwyr a myfyrwyr, i gofnodi marwolaeth ein cydweithiwr, Catrin Prys Jones. Cawsom ein syfrdanu a'n tristáu'n rhyfeddol gan ei marw ymhell cyn pryd a hithau ond deg ar hugain oed. Yr oeddwn i fy hun yn arbennig o drist oherwydd mai fy myfyriwr i oedd hi wrth iddi astudio am ei gradd PhD yn ei blynyddoedd cynnar yn yr Adran.

Dois i adnabod Catrin i ddechrau fel myfyriwr israddedig hynod o alluog, a oedd wastad yn heriol a bob amser yn ddigon styfnig i fynd i'r afael â syniadau hunanfodlon. Roedd hi hefyd yn ddoniol, yn ffraeth, yn hardd iawn, yn deyrngar i gyfeillion a chydweithwyr ac yn anhygoel o ffyddlon i Glwb Pêl-droed Lerpwl. Nid oedd amheuaeth yn y byd am ei gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, ac roedd ganddi'r gallu i gyfathrebu ac i herio'n feirniadol ar lefel uchel iawn yn y ddwy iaith a ddefnyddir yn yr Adran.

Bydd myfyrwyr yr Adran yn ei hadnabod trwy ei gwaith gyda myfyrwyr cyfrwng-Cymraeg ar Theatr Ewrop ac ar ddatgymalu cynhyrchiadau. Yr oedd hefyd yn Ddarlithydd ym maes Drama Teledu. O fewn i'r maes hwn, lle roedd ei phroffil yn y DU yn tyfu o fewn i'r gymuned cyfryngau, cwblhaodd ei PhD ar waith Dennis Potter, cyfrannodd i'r cyfrolau Fifty Key Television Programmes a Tele-Vision a Tele-Visual gyhoeddwyd gan y BFI, a olygwyd gan ei chymar, Glen Creeber, ac a ddefnyddir yn helaeth gan ein hisraddedigion ni ac mewn Adrannau Cyfryngau mewn prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig. Cyfrannodd hefyd i'r gwerslyfr arfaethedig ar gyfer myfyrwyr cyfrwng-Cymraeg a fydd bellach yn waith ôl-argraffiedig.

Roedd Catrin yn berffeithydd. Roedd ei gofal yn fawr am ansawdd ei darlithoedd a'i seminarau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf ni allodd gyrraedd ei safonau uchel ei hun oherwydd cymhlethdod ei salwch ac fe ddioddefodd hi yn fwy na neb yn sgìl hyn.

Cydymdeimlwn yn ddwys â'i rhieni, John a Valmai, ei chwaer, Elen, a'i gŵr Rowan, ac yn enwedig â'n cydweithiwr, Glen Creeber, sef cymar Catrin.

Elan Closs Stephens