Paratoi at Gystadleuaeth Sgiliau 07

Un o'r timau oedd yn cymyd rhan yn 'Nhric Rhaff Aber'

Un o'r timau oedd yn cymyd rhan yn 'Nhric Rhaff Aber'

08 Ionawr 2007

Dechreuodd y paratoi ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr 2007 ychydig cyn y Nadolig wrth i'r 15 tîm geisio cwblhau'r “Tric Rhaff Aber” fel rhan o’r diwrnod adeiladu tîm. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal am yr unfed tro ar ddeg eleni ar yr 21ain o Fawrth ac mae’n unigryw i’r Brifysgol yn Aberystwyth.

Mae’r Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr yn profi sgiliau myfyrwyr a’u gwaith tîm ac yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda cais i’r myfyrwyr gynllunio a hyrwyddo stondin arddangosfa a gwneud cyflwyniad grwp ar sgiliau cyflogadwyedd, ac yn arbennig, y sgiliau mae eu disgyblaeth academaidd penodol yn cynnig i gyflogwyr.

Roedd tîmau o wyth yn cymryd rhan yn Nhric Rhaff Aber, lle roedd rhaid iddyn nhw gynhyrchu sgwâr perffaith gan ddefnyddio rhaff yn unig.  Aethpwyd â’r tîmau allan i’r cae ac yna gosodwyd mwgwd dros eu llygaid.  Roedd un aelod o bob tîm yn bresennol fel gwyliwr i wneud yn siwr nad oeddent yn twyllo nac yn anafu eu hunain.  Ar ôl yr ymarfer, aeth y tîmau trwy’r broses gan drafod os oedden nhw wedi gweithio gyda’i gilydd fel tîm a sut fyddent wedi gallu gwella ar y canlyniad.

Dywedodd Lynda Rollason o Wasanaeth Cynghori Gyrfaoedd PCA ac sy’n bennaf gyfrifol am drefnu’r digwyddiad: “Mae gwaith tîm yn elfen hanfodol o’r gystadleuaeth hon a gweithiodd y tîmau gyda’i gilydd i ffurfio sgwâr perffaith gan ddefnyddio rhaff.  Yr hyn doedden nhw ddim yn gwybod oedd y byddai mwgwd yn cael ei roi dros eu llygaid.  Roedd e’n ddiddorol gweld sut wnaethon nhw ddod i ben â’r broblem.”

Cynhelir y Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr ar yr un dydd a’r Ffair Gwybodaeth Gyrfaoedd a bydd y tîmau yn gwneud cyflwyniad 10 munud a stondin yn gwerthu eu sgiliau cyflogadwyedd i banel o feirniaid.  Y brif wobr ar gyfer y tîm buddugol yw £1500 wedi ei noddi gan Grwp RPS.  Yn ogystal â’r brif wobr, bydd gwobr am y Stondin Orau a’r Cyflwyniad Gorau, wedi eu noddi gan y Fyddin a BBC Cymru.