Bioman yn ennill gwobr 'Energy Globe' Prydain

Dr Bill Perkins

Dr Bill Perkins

15 Ionawr 2007

Dydd Llun 15 Ionawr 2007
Bioman yn ennill gwobr ‘Energy Globe' Prydain
Mae dyfais a gynlluniwyd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth (PCA) i gael gwared o lygredd metelau gwenwynig o ddŵr sydd yn llifo o hen weithiau mwyn wedi ennill gwobr Energy Globe Prydain ar gyfer 2006.

Datblygwyd BIOMAN gan dîm rhyngwladol o wyddonwyr dan arweiniad Dr Bill Perkins o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear PCA. Cyllidwyd y gwaith gyda chefnogaeth grant €1.4 miliwn gan gynllun LIFE y Comisiwn Ewropeaidd.

Teclyn tebyn i fag te enfawr yw Bioman sydd yn cynnwys gwymon wedi ei ddi-algineiddio (gwastraff proses ddiwydiannol i wneud ychwanegion bwyd) a'i osod mewn tanc dŵr. Mae wedi bod yn cael ei brofi yn y maes yng Nghymru ac yn yr Eidal.

Mae gallu cyfnewid ïonau’r gwymon a ddi-algineiddwyd yn allweddol i’r broses.  Dangosodd profion labordy a’r profion maes a gwblhawyd hyd yma fod gwymon a ddi-algineiddiwyd yn effeithiol iawn ar gyfer ddal y prif lygrwyr, sef sinc, plwm a chadmiwn, wrth i’r dŵr lifo drwyddo.

Dywedodd Dr Bill Perkins:
“Mae’r wobr yma yn gydnabyddiaeth o’r gwaith gwych mae’r tîm wedi ei wneud. Mae’n decyln  syml ac effeithio iawn, ac mae’r budd potesnial o’i ddefnyddio, o ystyried maint problem dŵr wedi ei lygru yn llifo o hen weithiau mwyn ar draws y Byd, yn sylweddol iawn.”

“Mae nifer fawr o weithiau mwyn yng Ngheredigion yn parhau i lygru’r amgylchedd flynyddoedd wedi iddynt gau.  Nid yw’r broblem wedi gwella ac mae lefelau y llygredd yn annhebyg o ostwng yn sylweddol yn y dyfodol - ffaith a bwysleisir mewn adroddiad diweddar gan Asiantaeth yr Amgylchedd.”
Yn ogystal â Dr Perkins mae Dr Nick Pearce a Miss Suzanne Hartley o PCA, Dr Robert Edyvean, Dr Geoff Preistman, Dr Lynn Sandlands a Dr Roberts Bachmann o Ysgol Beirianneg Gemegol a Phroses Prifysgol Sheffield a Dr Enrico Dinelli o Adran Gwyddorau Geoamgylcheddol Prifysgol Bologna yn gweithio ar y prosiect.

‘Energy Globe’
Mae’r ‘Energy Globe’ (http://www.energyglobe.info/geg/frontend/view.php) sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Gwobr y byd am gynnaladwyiaeth’, yn cael ei dyfarnu i brosiectau ar draws y byd sydd yn gwneud defnydd gofalus ac economaidd o adnoddau ac yn defnyddio ffynhonellau egni amgen.  Cyflwynir y prosiectau buddugol mewn pump dosbarth; daear, tân, dŵr, awyr a ieuenctid mewn gala teledu a  ddarlledir gan orsafoedd teledu rhyngwladol sydd yn cyrraedd 2.5 biliwn o gartrefi.

Dewisir enillwyr pob dosbarth (Rhanbarthol, Cenedlaethol, Cyfandirol a’r Byd) gan grŵp o arbenigwyr o’r Cenhedloedd Unedig, UNIDO, Banc y Byd, Cyngor Ynni Adnewyddadol Ewrop, sefydliad ymchwil Seibersdorf, a gweinyddiaethau amrywiol ayyb. Dweisir y rhai sydd yn cyrraedd y rownd derfynnol gan Reithgor Rhyngwladol Energy Globe sydd yn cynnwys cynrychiolaeth o bob cyfandir, o dan gadeiryddiaeth Maneka Gandhi.
Cafodd Dr Perkins wybod am y wobr ar ddiwedd 2006.