Caffi Gwyddoniaeth '07

Caffi Gwyddoniaeth Aberystwyth

Caffi Gwyddoniaeth Aberystwyth

09 Ionawr 2007

Dydd Mawrth 9 Ionawr 2007
Caffi Gwyddoniaeth ‘07
Mae Caffi Gwyddoniaeth Aberystwyth wedi cyhoeddi rhestr o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal dros y pedwar mis nesaf, a'r un cyntaf fydd sgwrs gan Dr John Fazey o Brifysgol Rhydychen am ddysgu o chwaraeon.

Fforwm yw'r Caffi Gwyddoniaeth sy’n rhoi cyfle i bobl gwrdd a chael sgwrs anffurfiol am y syniadau diweddaraf yn ymwneud â gwyddoniaeth. Mae’r Caffi wedi ei selio ar Café Scientifique, sydd yn trefnu cyfarfodydd tebyg ar draws y wlad ac yn hybu ymrwymiad y cyhoedd gyda gwyddoniaeth ac geisio gwneud gwyddoniaeth yn fwy atebol.  Ers ffurfio yn 1998, mae dros 30 o fforymau yn cael eu cynnal dros y DU sy’n rhan o’r Café Scientifique.

Mae’r Sefydliad Ymchwil Amgylcheddol a Tir Glas (IGER) yn Aberystwyth wedi bod yn trefnu’r Caffi yn ardal bar y theatr yn y Canolfan Celfyddydau yn fisol, gyda siaradwyr gwadd yn dod i drafod gwahanol bynciau gwyddonol. Isod, ceir manylion yr hyn sydd gyda nhw ar y gweill:

Cynhelir digwyddiadau yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth, ardal bar y Theatr, 7.30, Am ddim

Ionawr 22: Dr John Fazey: Penawd: 'Learning from sport'
Mae John Fazey yn Reolwr dros dro y Cwrs ar gyfer Diploma Uwchraddedig Dysg ac Addysgu mewn Addysg Uwch yn Sefydliad Dysgu Rhydychen, Prifysgol Rhydychen.

26 Chwefror: Yr Athro Stephen Eales, Penawd: 'The history of Galaxies'
Mae Stephen Eales yn Athro astroffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn awdur 'Origins', llyfr sy'n disgrifio ymchwil diweddar i darddiad planedau, ser a galaethiau yn y Bydysawd.

19 Mawrth: Mr Alex Bricknell: Penawd: 'Unmanned Aerial vehicles'.
Mae Mr Bricknell yn Reolwr Datblygiad Busnes - Awyrofod / Systemau heb reolaeth dyn - ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

23 Ebrill: Yr Athro Gareth Edwards-Jones: Penawd: 'Is nature conservation in the UK simply gardening?'
Mae Gareth yn Athro Astudiaethau Amaethyddiaeth a Defnydd Tir ym Mhrifysgol Bangor.

Gwybodaeth: http://www.iger.bbsrc.ac.uk/ScienceCafe/#up