Teyrnged i'r Athro Glyn Emery

Yr Athro Glyn Emery

Yr Athro Glyn Emery

22 Ionawr 2007

Dydd Llun 22 Ionawr 2007
Teyrnged i'r Athro Glyn Emery
Brodor o Cymbria oedd Glyn Emery. Bu'n astudio Ffiseg yn Rhydychen cyn mynd i weithio i'r egin-ddiwydiant cyfrifiaduron yng nghanol y 1950au. Dechreuodd ei yrfa academaidd fel darlithydd yng Ngholeg Westfield (Prifysgol Llundain) ac yn 1970 cafodd ei benodi i gadair newydd Gwyddor Gyfrifiadureg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fel oedd yn cael ei adnabod ar y pryd.

Prifysgolion Caergrawnt a Manceinion oedd yr arloeswyr yn natblygiad cyfrifiaduron, ac arwahan i ddau sefydliad arall, nhw oedd y cyntaf i gynnig cyrsiau Cyfrifiadureg. Nifer bach iawn o adrannau oedd yn cynnig y pwnc yn y Deyrnas Gyfunol pan benderfynodd Aberystwyth sefydlu adran Gyfrifiadureg yn 1970. Tasg yr Athro Emery oedd sefydlu yr adran, cynllunio’r cyrsiau a denu’r myfyrwyr.  Dechreuodd yr israddedigion cyntaf ar Rhan 2 o’r cwrs anrhydedd cyfun yn 1971 gan raddio yn 1973, a cafodd y myfyrwyr MSc cyntaf eu derbyn yn 1973.  Ar lefel israddedig, roedd yr Ysgol Fathamateg oedd newydd ei sefydlu yn cynnig fframwaith addas iawn ar gyfer cyflwyno graddau sengl a chyfun o 1974 ymlaen.  Ac arweiniodd y datblygiadau cyflym mewn micro-electroneg i gyflwyno gradd mewn Cyfrifiadureg a Micro-electroneg yn 1979, wedi ei ddysgu ar y cyd gyda’r Adran Ffiseg, ac a oedd yn llwyddiant mawr. 

Pan ymddeolodd Emery yn 1984, gallai edrych ar yr adran roedd wedi ei chreu gyda chryn falchder.  Roedd wedi tyfu o ddim i fod yn adran gyda tua 150 o fyfyrwyr.  Ar ben hyn, roedd enw da y dysgu wedi arwain at ofyn i’r adran drefnu cyrsiau haf sylweddol ar gyfer un o brif gwmnïau technoleg Prydain, yn ogystal â nifer o gyrsiau byrrach ar gyfer cyrff eraill, gweithgareddau fyddai’n darparu yr arian i gefnogi datblygiadau ymchwil yn ddiweddarach.

Roedd Emery yn cymryd ei waith dysgu o ddifrif ac yn disgwyl i’w staff wneud yr un peth.  Roedd e’n ysgrifennu’n dda a cynhyrchodd nifer o werslyfrau oedd yn adlewyrchu’r pwys yr oedd yn rhoi ar ddysgu â’i ddiddordeb technegol mewn ieithoedd rhaglenni a systemau amser real bychain.  Fel Pennaeth Adran roedd o flaen ei amser yn ei ddealltwriaeth o’r angen am gyfathrebu da rhwng staff yr adran.  Yn ystod y tymor, roedd yn cynnal cyfarfod wythnosol i staff ar amser penodol yn yr amserlen.  Achosodd hyn rywfaint o syndod a difyrrwch mewn adrannau eraill ond profodd yn ffordd effeithiol o ragweld anhawsterau posib a datrys problemau bychain, yn ogystal â sicrhau bod pob aelod staff yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd.  Yn benodol, gwnaeth hi’n bosib i sylwi’n gynnar ar fyfyrwyr oedd yn cael anhawster ac i gymryd camau i ddatrys y broblem cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Ar lefel bersonol, roedd Emery yn groesawgar a chwrtais.  Roedd e a’i wraig yn mwynhau diddanu yn eu cartref, Sandmarsh Cottage, yn Heol y Frenhines, tŷ hynod lle’r oedd llawr yr ystafell eistedd yn goleddu 10 gradd a bar llawn yn y seler.  Bydd hefyd yn cael ei gofio am ei gŵn yr oedd yn eu caru’n fawr ac oedd yn gymdeithion rheolaidd iddo.

Dychwelodd yr Athro Emery a’i wraig i Lundain wedi iddo ymddeol yn 1984.  Bu farw ar 8 Rhagfyr 2006 gan adael gwraig weddw.

Yr Athro Frank Bott