Cwmwl enbyd

Dr John Gratan

Dr John Gratan

18 Ionawr 2007

Dydd Iau 18 Ionawr 2007
Cwmwl enbyd
Nos Wener 19 Ionawr (BBC2, 9.00 yh) bydd rhaglen Timewatch y BBC yn canolbwyntio ar ffrwydriad hollt Laki yng Ngwlad yr Iâ yn 1783.  Caiff y rhaglen ei selio ar ymchwil gan Dr John Gratan o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Cyfieithiad o erthygl gan David Keys a ymddangosodd yn rhifyn mis Ionawr o BBC History.

Cwmwl enbyd dros y DU
Dangosodd ymchwil newydd fod cwmwl o nwy folcanig wedi disgyn dros Brydain 223 o flynyddoedd yn ôl gan ladd 30,000 o bobl – un o'r trychinebau naturiol gwaethaf i daro Prydain am sawl canrif.  Bu farw hyd at 200,000 hefyd yn Ffrainc, yr Isel Diroedd a gogledd yr Eidal.

Cwblhawyd yr ymchwil gan Dr John Grattan, uwch ddarlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.  Mae'n awgrymu fod yr amgylchiadau hinsoddol a achoswyd yn sgil y digwyddiad wedi bod o gymorth i greu lefelau cynyddol o ddioddef a sbardunodd ddiwygiad cymdeithasol anferth yn y ffatrïoedd a’r carchardau.  Roedd y cwmwl nwy yn lladd pobl trwy waethygu salwch ar yr ysgyfaint ac mae’n bosibl bod yr amgylchiadau hinsoddol cysylltiedig wedi cyfrannu yn anuniongyrchol i gynnydd teiffws ac afiechydon eraill y flwyddyn honno.

Cynhyrchwyd y nwy yn wreiddiol gan ffrwydriad folcanig anferth yng Ngwlad yr Iâ.  I ddechrau dim ond poblogaeth Gwlad yr Iâ oedd yn dioddef – bu farw o gwmpas 25% ohonyn nhw, llawer gan wenwyn fflworid folcanig.  Ond roedd y system dywydd gwasgedd uchel dros Loegr a Ffrainc yn golygu fod y nwy a’r llwch yn symud o Wlad yr Iâ ar draws Scandinafia lawr at yr Almaen a gogledd Ffrainc ac yna mewn i Brydain.  Sefydlodd niwl folcanig dros ardaloedd mawr o Loegr.

Gyda nifer y marwolaethau yn cynyddu, ac arogl swlffwr yn yr aer a stormydd tarannau anferth wedi eu ysgogi gan gwmwl folcanig, dechreuoedd llawer ofni bod diwedd y byd ar fîn dod, yn ôl ymchwil Dr Grattan. Difrododd trawiadau mellt nifer o dai a lladd llawer o bobl.  Parhaodd y ffrwydriad am sawl mis a bu farw 230,000 o bobl ym Mhrydain ac Ewrop, y rhan fwyaf o broblemau yn ymwneud â’r galon a’r ysgyfaint wedi eu ysgogi gan nwy a llwch mân o’r cwmwl. Cododd y niwl folcanig y tymheredd a gwneud niwed mawr i lysdyfiant, gan gynnwys cnydau.  Y gaeaf hwnnw, ar ôl i’r llosgfynydd daflu nwy a llwch i’r awyrgylch am sawl mis, dechreuodd y llygredd leihau maint y gwres solar oedd yn cyrraedd wyneb y ddaear.  Gostyngodd y tymheredd yn ddramatig. 

Dangosodd ymchwil Dr Grattan sut cafodd trychineb y cwmwl nwy effaith crefyddol sylweddol.  Daeth o hyd i enghreifftiau lle oedd pentrefwyr yn gorfodi offeiriaid i allfwrw y cymylau gan eu bod yn credu eu bod yn dod o uffern.  Mewn nifer o lefydd roedd gweiddïau yn cael eu cynnal gan fod pobl yn credu eu bod yn gwynebu eu diwrnodau olaf.  Cynyddodd aelodaeth yr Eglwys Fethodist yn Lloegr.

Mae’n ymddangos fod amgylchiadau hinsoddol poeth yr haf yna hefyd wedi annog cychwyn haint teiffws – ac felly wedi cymryd rhan yng nghyflwyniad y diwygiadau yng ngharcharau a ffatrïau Prydain.  Yn Swydd Gaerhirfryn, er enghraifft, bu farw 50 o blant yn un o’r tai oedd ynghlwm wrth y felin gotwm.  Roedd yna brotest gyhoeddus gan drigolion lleol oedd yn poeni y byddai’r afiechyd yn lledu.  Comisiynodd ynadon lleol adroddiad oedd yn cynghori rheolau caeth am amgylchiadau mewn ffatrioedd ac yn awgrymu y dylai prentisiaid olchi yn rheolaidd.  Cymrodd ynadon yn Glasgow a Swydd Efrog gamau tebyg a phan ddaeth yn amlwg eu bod yn yn gweithio, cynyddodd y pwysau am ddeddfwriaeth yn y Senedd.

Cafwyd achosion o teiffws mewn carchardai, yn enwedig yng Nghaerloyw lle gorchmynodd y sirif bod llety mwy yn cael ei adeiladu er mwyn lleihau’r peryg o achosion pellach. Yn ystod y degawd nesaf dilynodd nifer o siroedd yn Lloegr esiampl Caerloyw.

“Mae digwyddiadau 1783 yn dangos y cysylltiadau cymhleth rhwng trychinebau naturiol, patrymau heintiau a diwygiad cymdeithasol,” dywedodd Dr Grattan.