Seremonïau Graddio 2007

Graddio yn Aberystwyth

Graddio yn Aberystwyth

09 Gorffennaf 2007

Dydd Llun 9 Gorffennaf 2007
Seremonïau Graddio 2007
Wrth i dros 2000 o fyfyrwyr baratoi i ddathlu'r ffaith eu bod yn graddio o Brifysgol Cymru, Aberystwyth yr wythnos hon, mae'r Brifysgol hefyd yn paratoi i urddo chwe Chymrawd newydd.

Dydd Mawrth 10 Gorffennaf, 11.00 y bore
Bydd yr actor a seren ‘Phantom of the Opera’, Mr Peter Karrie, yn cael ei gyflwyno gan Gofrestrydd a Ysgrifennydd y Brifysgol, Dr Catrin Hughes. Mae Mr Karrie wedi cydweithio’n agos â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth droeon.
        
Dydd Mawrth 10 Gorffennaf, 3.00 y prynhawn
Bydd Mr Wil Aaron, cynhyrchydd, gohebydd a sefydlydd cwmni Ffilmiau’r Nant yn cael ei gyflwyno gan Mr Huw Jones, cyn Brif Weithredwr S4C.

Dydd Mercher 11 Gorffennaf, 3.00 y prynhawn
Bydd Dr Timothy Brain QPM, BA, PhD, FRSA, cyn fyfyriwr a Phrif Gwnstabl Heddlu Swydd Gaerloyw yn cael ei gyflwyno gan y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Aled Jones. Mae Dr Brain ynaelod o Fyrddau Ymgynghorol Adran Hanes a Hanes Cymru a’r Ysgol Rheolaeth a Busnes.

Dydd Iau 12 Gorffennaf, 3.00 y prynhawn
Bydd Ms Lynne Brindley MA, FCILIP, FRSA, Prif Weithredwr y Llyfrgell Brydeinig a Chadeirydd Cynghrair Cadwraeth Digidol y Deyrnas Unedig yn cael ei chyflwyno gan Mr Andrew Green, Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru.

Dydd Gwener 13 Gorffennaf, 11.00 y bore
Bydd yr Athro Keith Mason, Prif Weithredwr a Dirprwy Gadeirydd Cyngor Ymchwil Ffiseg Gronynnau a Seryddiaeth Prydain, a Prif Weithredwr y Cyngor Cyfleusterau Mawr, yn cael ei gyflwyno gan yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Dydd Gwener 13 Gorffennaf, 3.00 y prynhawn
Bydd Yr Arglwydd Livsey o Dalgarth MSc,cyn-aelod Seneddol dros Sir Frycheiniog a Maesyfed a chyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn cael ei gyflwyno gan yr Arglwydd Elystan Morgan. Yr Arglwydd Livsey oedd un o sefydlwyr Coleg Amaethyddol Cymru, a unodd gyda Phrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1995.

Rhoddir y teitl Cymrawd er Anrhydedd i rai sydd naill ai'n gyn fyfyrwyr o fri neu sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, neu â bywyd Cymru. 

Trefn y seremonïau graddio

DYDD MAWRTH 10 GORFFENNAF
Seremoni 1 am 11am (Celfyddydau)
Addysg; Saesneg; Hanes a Hanes Cymru
Seremoni 2 am 3pm (Celfyddydau)
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

DYDD MERCHER 11 GORFFENNAF
Seremoni 3 am 11am (Gwyddorau Cymdeithasol, Celfyddydau)
Gwleidyddiaeth Ryngwladol; yr Ysgol Gelf
Seremoni 4 am 3pm (Celfyddydau, Gwyddorau Cymdeithasol)
y Gyfraith; Ieithoedd Ewropeaidd; Cymraeg; y Radd Allanol

DYDD IAU 12 GORFFENNAF
Seremoni 5 am 11am (Gwyddorau Cymdeithasol)
Ysgol Rheolaeth a Busnes
Seremoni 6 am 3pm (Gwyddorau, Gwyddorau Cymdeithasol)
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol; Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff; AstudiaethauGwybodaeth

DYDD GWENER 13 GORFFENNAF
Seremoni 7 am 11am (Celfyddydau, Gwyddorau)
Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol
Seremoni 8 am 3pm (Gwyddorau)
Cyfrifiadureg; Sefydliad y Gwyddorau Gwledig