Wythnos Cychwyn Busnes PCA, 4 – 8 Mehefin

Agustín de Burgos López

Agustín de Burgos López

05 Mehefin 2007

Dydd Llun 4 Mehefin, 2007
Wythnos Cychwyn Busnes PCA, 4 – 8 Mehefin
Mae'r Wythnos Cychwyn Busnes Flynyddol g2e (graduate to enterprise), a gynhelir ar y cyd â Rhwydwaith Menter Crisalis y Brifysgol, wedi ei chynllunio i ddarparu'r holl wybodaeth ymarferol i fyfyrwyr presennol a graddedigion, yn ogystal â’r cyngor a’r anogaeth sydd eu hangen i gychwyn busnes.

Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdai deinamig a rhyngweithiol mewn sgiliau busnes allweddol ac yn rhoi’r cyfle i ddarpar entrepreneuriaid gwrdd a rhyngweithio ag unigolion o’r un meddylfryd â nhw.

Dydd Llun Bore – Ysbrydoliaeth – Cewch glywed gan unigolion sydd wedi dechrau eu busnes eu hun.
Dydd Llun Prynhawn – Cynllunio ar gyfer Busnes
Dydd Mawrth Bore – Ymchwil i’r Farchnad
Dydd Mawrth Prynhawn – Rheoli Cyllid eich Busnes
Dydd Mercher Bore – Marchnata
Dydd Mercher Prynhawn – Materion Cyfreithiol
Dydd Iau Bore – Gwerthu’n Effeithiol – Cyngor ar gyfer Eich Busnes chi
Dydd Iau Prynhawn – Cyflwyno eich Hun
Dydd Gwener Bore – Rhwydweithio
Dydd Gwener Prynhawn – Y Camau Nesaf

Cynhelir yr holl sesiynau ar Gampws Penglais – cewch ragor o wybodaeth pan fyddwch yn archebu. Mae pob sesiwn AM DDIM ac yn cynnwys cinio. Gellir ad-dalu costau teithio i unigolion cymwys.

Un cyn-fyfyriwr o Aberystwyth sydd wedi gwneud y mwyaf o’r Wythnos Cychwyn Busnes yw Agustín de Burgos López o Sbaen, sy’n rhedeg Don Salvodor Explora www.donsalvadorexplora.com. Mae’n rhedeg y busnes o swyddfa ym Mharc Gwyddoniaeth Aberystwyth tra’n gweithio fel tiwtor Sbaeneg yn y Brifysgol, lle cafodd radd mewn economeg a gradd meistr mewn daearyddiaeth dynol.

Mae Agustín yn gwerthu teithiau cerdded i grwpiau bach o hyd at wyth o bobl yng nghanolbarth Sbaen, Castilla-La Mancha a Castilla y Leó a rhan orllewinol Extermadura.

Cymrodd ei gynlluniau i redeg busnes ei hunan gam ymlaen yn ystod Wythnos Cychwyn Busnes g2e flwyddyn diwethaf.  Aeth i bob un o’r gweithdai i wella ei wybodaeth busnes, i dderbyn cymorth amhrisiadwy gan arbenigwyr ac i gwrdd â phobl.

“Gall datblygu syniad busnes ymddangos yn rhwydd iawn i ddechrau,” dywedodd Agustín.  “Mae’r Wythnos Cychwyn Busnes yn dod â’ch traed chi nol at y ddaear ac yn gwneud i chi ystyried yr holl heriau y byddwch yn eu hwynebu pan yn cychwyn busnes.

“Roedd fy nghynghorwr g2e yn gymorth mawr i mi, gan fy mod i’n gorfod paratoi cynllun busnes manwl a chyfrifon ar gyfer fy nghais Ysgoloriaeth KEF (Knowledge Exploitation Fund).”

Mae wedi derbyn cymorth mentora am ddim gan raglen g2e, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Cymru Aberystwyth a chanolfannau academaidd eraill ar draws Cymru.

“Mae gweithdai Wythnos Cychwyn Busnes g2e wedi profi i fod yn fan cychwyn llwyddiannus i gannoedd o fyfyrwyr ar draws Cymru sydd wedi mynd ymlaen i ddechrau busnes eu hunan yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf,” dywedodd Jacqui Niven, rheolwr rhaglen g2e. 

Mae’r cyrsiau’n boblogaidd iawn a bydd llefydd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Cysylltwch â Graduating to Enterprise (g2e) HEDDIW i archebu lle
Ffôn :0845 601 0505 / e-bost info@g2e.co.uk  / www.g2e.co.uk