'Olrhain ein dealltwriaeth o'r bydysawd – ydy'n ni'n deall mwy na'n cyndeidiau?'

Yr Hen Goleg

20 Mawrth 2007

Dydd  Mawrth 20 Mawrth, 2007
Darlith Walter Idris Jones
‘Olrhain ein dealltwriaeth o'r bydysawd – ydy'n ni’n deall mwy na’n cyndeidiau?’
Bydd Dr Rhodri Evans o Brifysgol Morgannwg yn traddodi Darlith Walter Idris Jones ar nos Fercher yr 21ain o Fawrth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Teitl y ddarlith, fydd yn cael ei chynnal am 7 o’r gloch yn narlithfa A12 yn adeilad Hugh Owen ar gampws Penglais, fydd ‘Olrhain ein dealltwriaeth o’r bydysawd – ydy’n ni’n deall mwy na’n cyndeidiau?’

Mewn rhagair i’w ddarlith dywedodd:
“Yn y pedwardeg mlynedd diwetha rydym wedi cadarnhau bod ein Bydysawd wedi dechrau mewn clec fawr rhyw 14 biliwn o flynyddoedd yn ol. Rydym wedi arsyllu miloedd a biliynnau o alaethau, a bron gweld yn ôl i'r ser cyntaf i'w ffurfio. Ond, dros y degawd diwetha mae nifer o wahanol arbrofion arloesol wedi dangos bod argyfwng yn ein dealltwriaeth o ffiseg a chosmoleg. Rydym naill ai yn gorfod derbyn bod 95% o'r Bydysawd mewn ffurf o fater neu egni dydyn ni erioed wedi ei weld, neu bod ein dealltwriaeth o ffiseg sylfaenol yn anghywir. Datrys y broblem hon yw'r her mwyaf i ffisegwyr dros yr ugain mlynedd nesaf.”

Mae Dr Evans yn Uwch Darlithydd mewn Astroffiseg yn Adran Gwyddoniaeth a Chwaraeon, Prifysgol Morgannwg.

Traddodir y ddarlith hon yn Gymraeg a bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael. Mae croeso cynnes i bawb.