Y Ganolfan Astudiaethau Addysg yn dathlu Diwrnod y Llyfr

Dathlu Diwrnod y Llyfr

Dathlu Diwrnod y Llyfr

26 Mawrth 2007

Dydd Llun 26 Mawrth 2007
Y Ganolfan Astudiaethau Addysg yn dathlu Diwrnod y Llyfr
Ar yr 2il of Fawrth bu Canolfan Astudiaethau Addysg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn dathlu Diwrnod y Llyfr drwy lansio Hwyl Drwy'r Flwyddyn, cyfres o 12 llyfr mawr, CD sain a llawlyfr athrawon ar gyfer disgyblion Cymraeg ail iaith 5 i 8 oed, yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Cyfunwyd dathliadau Diwrnod y Llyfr â dathliadau y Flwyddyn Newydd Tsienaidd a Gwyl Dewi gyda lansiad dwy gyfrol arall, Blwyddyn Newydd China gan Helen Emanuel Davies, a Gwyl Dewi gan Meinir Ebbsworth.

Cafodd disgyblion blwyddyn 1 yr ysgol bleser mawr o wrando ar Helen Emanuel Davies, sydd yn gyn-gyfarwyddwraig y Ganolfan Astudiaethau Addysg, yn darllen dau o lyfrau'r gyfres Hwyl Drwy’r Flwyddyn, y mae’n gyd-awdur arni, ac yn chwarae gyda phypedau o ddreigiau Tsineaidd.

Mae 2007 yn flwyddyn bwysig i’r Ganolfan wrth iddi ddathlu 25 mlwyddiant. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi cyhoeddi cannoedd o deitlau ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, yn wir cyhoeddwyr 60 rhwng Tachwedd 2006 a Mawrth 2007 yn unig.

Dywedodd Lynwen Jones, Cyfarwyddwraig y Ganolfan;
“Mae’r Ganolfan wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn i addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod y chwarter canrif aeth heibio drwy ddatblygu deunydd dysgu perthnasol a bywiog yn ystod cyfnod o dwf yn nifer y disgyblion sydd yn astudio drwy gyfrwng yr iaith.”

Cyfres o 6 llyfr hanes ffeithiol ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 2 a 3 sydd yn cael ei pharatoi gan Dr Catrin Stevens yw un o brosiectau diweddaraf y Ganolfan. Cafodd y gyfres, gaiff ei chyhoeddi tua diwedd y flwyddyn ac a fydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, gefnogaeth ariannol gwerth £42,000 gan Cyd Bwyllgor Addysg Cymru.

Mae’r ganolfan yn cynhyrchu adnoddau ar gyfer pob ystod oedran a phwnc yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ar ffurff cryno-ddisgiau sain CD-ROMau a deunydd ar gyfer bwrdd gwyn rhyngweithiol yn ogystal â llyfrau a ffeiliau.