Olrhain crwbanod cefn lledr gyda lloeren

Un o'r crwbanod cefn lledr yn dod i'r lan ar Dominic

Un o'r crwbanod cefn lledr yn dod i'r lan ar Dominic

31 Mai 2007

Dydd Iau 31 May, 2007
Olrhain crwbanod cefn lledr gyda lloeren
Mae gwyddonwyr o Aberystwyth newydd ddychwelyd o ynys Dominica yn y Caribî lle maent wedi bod yn gosod tagiau ar grwbanod môr cefn lledr fel rhan o astudiaeth ryngwladol i'r rhywogaeth hon sydd mewn perygl.

Mae'r biolegwyr môr, Dr John Fish a Mr Rowan Byrne o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol yn Aberystwyth, yn defnyddio’r dechnoleg olrhain lloeren ddiweddaraf er mwyn astudio ymddygiad crwbanod cefn lledr yn ardal ddwyreiniol y Caribî yn ystod ac ar ôl y cyfnod nythu.

Mae crwbanod cefn lledr benywaidd, sydd yn mesur hyd at 2 fetr o hyd ac yn pwyso hyd at dunnell, yn ceisio nythu bod tair blynedd rhwng Mawrth ac Awst gan ddodwy bob 10 diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn byddant yn dodwy rhwng 70 a 100 o wyau ar y tro.

Yr ymddygiad yn ystod y cyfnod hwn, y dewis o draeth, i ble mae nhw’n teithio rhwng dodwy a pha mor bell, yw ffocws yr astudiaeth gan y tim o Aberystwyth. Bydd yn canlyniadau yn cael eu defnyddio i ffurfio rhan o gynllun adfer crwbanod ar yr ynys.

Dywedodd Dr John Fish:
“Wedi i ni sicrhau’r trwyddedau angenrheidiol gan lywodraeth Dominica, a olygodd gyfarfod gyda’r Prifweinidog Roosavelt Skerrit, aethom ati i osod yr offer olrhain lloeren ar y crwbanod. Gosodwyd yr offer (Cofnodwyr Cyfnewid Data Lloeren) ar ddau grwban, Doris a Mabel, wedi iddynt ddod i’r lan a dodwy eu wyau ar draeth Roslie ar arfordir dwyreiniol yr ynys. Bydd yr offer, sydd ynghlwm wrth gragen allanol y crwbanod, yn cofnodi pob symudiad ganddynt yn ystod y 9 i 12 mis nesaf. Mae’r cofnodwyr yn debygol o dorri’n rhydd wedi hyn wrth i’r gragen dyfu.”

“Rydym yn gwybod eisoes o’r tagiau allanol sydd ar y ddwy eu bod wedi nythu ar Dominica yn gynharach eleni ac yn edrych ymlaen i gael gwybod a fyddant yn dychwelyd yno ac i’r un traeth i ddodwy eto cyn mudo i feysydd bwydo yng ngogledd Môr yr Iwerydd.”

“Yn ystod y cyfnod byr ers iddynt gael eu tagio mae’r crwban cyntaf (Doris) wedi aros yn weddol agos at Dominica ac heb grwydro mwy na 40 cilomedr o’r lan. Mae’r ail grwban (Mabel) wedi bod yn llawer mwy gweithgar ac wedi teithio hyd at 75km o’r lan a phlymio hyd at ddyfnder o 425m. Dyma’r tro cyntaf i grwbanod cefn lledr sydd ar ganol nythu gael eu holrhain gan offer lloeren yn nyfroedd Dominica ac mae mwy o wybodaeth werthfawr am y rhywogaeth bryn hon yn dod i law yn ddyddiol. Ar ôl gorffen nythu byddant yn mudo er mwyn hela bwyd, a phwy wyr, efallai bydd Doris a Mabel yn bwydo ar haig o slefrod môr oddi ar arfordir Cymru,” ychwanegodd.
 
Ceir mwy o wybodaeth am y cynllun a’r wybodaeth ddiweddaraf am symudiadau Doris a Mabel ar y wefan http://www.aber.ac.uk/biology/prospective/seaturtles_tmp.html.

Bu’r myfyriwr MSc Rowan Byrne yn rheoli cynllun crwbanod môn yn Dominica am bedair blynedd ac yn gweithio gyda swyddfeydd y Llywodraeth yno. Dywedodd:
“Mae Gwladwriaeth Dominica yn cydnabod pwysigrwydd crwbanod cefn lledr ac rydym yn mawr obeithio y bydd yr astudiaeth hon yn cyfrannu at feithrin enw da’r ynys fel canolfan flaengar mewn cadwraeth a thwristiaeth eco.”

Dominica
Mae Dominica yn gorwedd rhwng yr ynysoedd Ffrengig Guadeloupe (i’r gogledd) a Martinique (i’r de) yn rhan ddwyreiniol y Caribî. Ychydig o boblogaeth sydd ar yr ynys 289.5 milltir sgwar, gyda’r mwyafrif ohonynt yn byw o amgylch y brifddinas Roseau. Coedwig drofannol yw dwy ran o dair o’r ynys.

Crwbanod Cefn Lledr
Y crwban môr cefn lleldr (Dermochelys coriacea) yw’r mwyaf o’r crwbanod sydd yn fyw o hyd, ac yn mesur hyd at 2.7m a phwyso hyd at dunnell. Dyma’r ymlusgiad mwyaf yn byd ar wahân i dri math o grocodeil. Fe’i ceir mewn moroedd trofannol ac isdrofannol, ond mae’n hysbys hefyd ei fod yn nofio ymhell i mewn i’r cylch Arctig. Dyma’r unig rywogaeth o’r genws Dermochelys a’r teulu Dermochelyidae sydd mewn bodolaeth o hyd. Gallant fyw am rhwng 50 a 70 mlynedd.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae eu niferoedd wedi cwympo. Dangosodd astudiaeth o arfordir y Môr Tawel yn 1980 fod poblogaeth o 135,000 yno. Erbyn y flwyddyn 2000 dangosodd astudiaeth arall o’r un ardal taw dim ond 20,000 oedd y boblogaeth – gostyngiad o tua 80%. Cofnodwyd gostyngiadau tebyg yn ynysoedd y Philipinau. Rhwydi pysgota drifft a leiniau pysgota hir yw’r prif fygythiad iddynt, ond mae sbwriel fel bagiau plastig yn broblem hefyd gan fod y crwbanod yn eu camgymryd am slefrod môr, eu prif ffynhonnell fwyd. Ychydig o reibwyr naturiol sydd ganddynt, morfilod orca, y morgi mawr gwyn (white shark) a’r môr-deigr (tiger shark) yn bennaf.

Mae crwbanod cefn lledr yn nythu bob tair blynedd. Yn ystod cyfnod o 6 mis byddant yn dodwy hyd at 70 o wyau bob deg diwrnod gan nythu chwech neu saith gwaith mewn tymor. Maent yn nythwyr rhanbarthol ac yn ofalus eu dewis o safleoedd posib gan fod yn well ganddynt draethau agored a digon o donnau. Mae gofyn i’r tywod fod wedi ei ocsigeneiddio’n dda gan fod y nyth yn 75cm o ddyfnder. Mae nythu yn cymryd rhwng 2 a 2.5 awr, a’r gwaith o greu gwal iddi ei hun yn cymryd 30 i 40 munud. Bydd yr wyau yn deor wedi cyfnod o rhwng 65 a 75 diwrnod felly dylai cyw grwbanod ymddangos o’r wyau gafodd eu dodwy ar y 10 o Fai o amgylch y 10 Gorffennaf. Nid yw crwbanod yn gofalu am yr ifanc mewn unrhyw ffordd a dim ond 1 mewn 1000 fydd yn goroesi a thyfu i fod yn oedolyn. 

Wedi’r tymor dodwy bydd y crwbanod cefn lledr yn mudo i ogledd Môr yr Iwerydd er mwyn chwilio am fwyd, yn bennaf oddi ar arfordiroedd Canada a gogledd Ewrop. Maent yn nofio rhwng 5 a 6 kilometr yr awr ac 1.8 metr o dan yr wyneb ac yn dilyn slefrod môr sydd yn cael eu cario gan y cerhyntau a gallant deithio hyd at 10,000 km mewn cyfnod o 18 mis. Mae’r niferoedd o slefrod môr oddi ar arfordir gorllewin Cymru yn ystod misoedd yr haf yn cynnig amgylchiadau delfrydol er mwyn denu crwbanod cefn lledr.

Cafodd y crwban cefn lledr mwyaf a gofnodwyd ei ddal oddi ar arfordir Cymru yn 1988. Roedd yn pwyso 916kg. Os yw Doris a Mable, sydd yn pwyso tua hanner tunnell yr un, yn mudo i ddyfroedd Cymru maent yn debygol o gyrraedd yma tua mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.