Olrhain crwbanod cefn lledr gyda lloeren

31 Mai 2007

Mae'r biolegwyr môr Dr John Fish a Mr Rowan Byrne newydd ddychwelyd o ynys Dominica yn y Caribî lle maent wedi bod yn gosod tagiau ar grwbanod môr cefn lledr. Maent yn defnyddio'r dechnoleg olrhain lloeren ddiweddaraf er mwyn astudio eu hymddygiad yn ystod ac ar ôl y cyfnod nythu.

Myfyrwraig yn cipio prif wobr stori fer Iwerddon

03 Mai 2007

Hester Casey, myfyrwraig dysgu o bell yn yr Adran Astudiaeth Gwybodaeth yw enillydd cystadleuaeth stori fer Radio 1 RTÉ eleni.

IGER i uno â'r Brifysgol

04 Mai 2007

Mae'r Is-ganghellor wedi croesawi cyhoeddiad Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol ddydd Gwener 4 Mai ei fod am drosglwyddo Sefydliad Ymchwil Tir Glas a'r Amgylchedd i'r Brifysgol.

Dr Robert Harrison (1944 - 2007)

09 Mai 2007

Gyda thristwch mawr rydym yn cofnodi marwolaeth Dr Robert Harrison. Bu farw Dr Harrison ddydd Sul wedi cyfnod hir o salwch. Bu'n aelod o Adran Hanes a Hanes Cymru ers 1971.

Banana a phinafal

10 Mai 2007

Efallai nad yw coeden banana sydd yn blodeuo ac yn dwyn ffrwyth yn flynyddol, a phlanhigyn pinafal yn olygfeydd cyffredin yng ngorllewin Cymru, ond dyma ddau o'r planhigion fydd i'w gweld yn Nhy Gwydr Trofannol y Brifysgol pan fydd y drysau yn agor ar gyfer Diwrnod Agored Plan Penglais ddydd Sul 13 Mai rhwng 2 a 5 y prynhawn.

Dwy Ysgoloriaeth ol-raddedig newydd

16 Mai 2007

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn gwahodd ceisiadau ar gyfer dwy Ysgoloriaeth ol-raddedig; un mewn Troseddeg a'r llall trwy gyfrwng y Gymraeg.

Llwyddiant Imagine Cup

02 Mai 2007

Mae meddalwedd cyfrifiadurol a ddatblygwyd gan ddau fyfyriwr o Aber sydd yn galluogi disgyblion ysgol o bedwar ban byd i fynychu dosbarth gyda'u gilydd mewn ystafell rithwir, wedi cipio'r ail wobr yn rownd derfynol y Deyrnas Gyfunol o gystadleuaeth Imagine Cup.

Gwobr Ffuglen Luigi Bonomi Associates

24 Mai 2007

Bethany Pope, myfyrwraig sydd yn astudio am ddoethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol yn yr Adran Saesneg, yw enillydd cyntaf Gwobr Ffuglen Luigi Bonomi Associates.