Breaking through the Consensus: The Case for Liberalism in Welsh Politics

01 Tachwedd 2007

Nos Lun 12 Tachwedd, traddodir Darlith Flynyddol 2007 Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru gan un o aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad, Kirsty Williams. Teitl ei darlith fydd “Breaking through the Consensus: The Case for Liberalism in Welsh Politics”


Cynhelir y Ddarlith Flynyddol eleni yn Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 7.00 o'r gloch. Hon fydd 9fed Darlith Flynyddol y Sefydliad.

Mae Kirsty Williams yn un o ffigyrau blaenllaw'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Ymunodd â’r blaid yn bymtheg oed, ac ers hynny, bu’n dal gwahanol swyddi o fewn y blaid gan gynnwys Is-lywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn y cyfnod 1998-2000.

Yn dilyn y Refferendwm ar Ddatganoli yn 1997 fe’i hapwyntiwyd ar Grŵp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol gan Ron Davies, yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, ac fe’i dewiswyd i ymladd Etholaeth Brycheiniog a Maesyfed dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn 1998.

Enillodd y sedd yn 1999 a’i hamddiffyn yn llwyddiannus yn 2003 a 2007, gan gynyddu ei siâr o’r bleidlais bob tro. Ar hyn o bryd Kirsty yw llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau a hi hefyd yw Rheolwr Busnes y grŵp.

Mae Kirsty’n byw gyda’i gŵr a’i 3 merch fach, Angharad, Carys a Rachel ar fferm y teulu y tu allan i Aberhonddu, a thu allan i wleidyddiaeth, mae’n mwynhau treulio amser gyda’i theulu a helpu ar y fferm.


Yn ei darlith nos Lun, bwriada Kirsty Williams edrych ar rôl Rhyddfrydiaeth, y mudiad radical ehangach o fewn datblygiad Cymru, a’r consensws peryglus sydd wedi ymddangos ym mywyd gwleidyddol Cymru wedi datganoli. Daw’r ddarlith i ben drwy ddadlau ei bod yn awr yn amser i dorri drwy’r consensws a chaniatáu i radicaliaeth flodeuo ac adfywio ein diwylliant gwleidyddol.
Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru:
“Mae Kirsty Williams yn un o sêr ifancaf y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ac yn cael ei hystyried gan lawer fel arweinydd nesaf y blaid. O ystyried canlyniadau siomedig y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad y Cynulliad a’r rhaniadau niweidiol o fewn y blaid yn dilyn yr etholiad hwnnw, mae syniadau Kirsty am gyfeiriad ei phlaid i’r dyfodol o bwys mawr, nid yn unig i gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol ond i bawb sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru. Rydym yn falch dros ben ei bod hi wedi cytuno i gyflwyno’r syniadau hynny yn Narlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.”
Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Canolfan ymchwil annibynnol am amhleidiol yw Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru wedi’i lleoli o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Fe’i sefydlwyd i hybu astudiaeth academaidd a dadansoddiad o bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru. Gan adlewyrchu ei gartref o fewn adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf y byd, mae gwaith y Sefydliad yn cwmpasu’r prosesau gwleidyddol o fewn Cymru ond hefyd cysylltiadau gwleidyddol a gwleidyddol-economaidd Cymru gyda’r Deyrnas Gyfunol, Ewrop a’r byd.
Dyma nawfed Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Yn ystod y blynyddoedd a fu, cafwyd darlithoedd gan y canlynol: Dau Brif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Alun Michael AS a Rhodri Morgan AC, Ieuan Wyn Jones, Yr Arglwydd Griffiths o Fforestfach, Simon Jenkins o’r Times, Yr Athro Tom Nairn, Yr Athro Robert Hazell a’r Athro Michael Keating.
Diwedd.
Manylion pellach:
Gwenan Creunant, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth
Ffon: (01970) 622336, e-bost: gwc@aber.ac.uk 
Arthur Dafis, Swyddog Cysylltiadau Allanol, Prifysgol Aberystwyth
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk