Rwy'n Caru Aber

Swyddogion yr Undeb Mustapha Tary, Amrywioldeb a Datblygu, Sam Lumb, Llywydd, a Rhys Lewis, Gweithgareddau Myfyrwyr, yn arddangos eu crysau 't' Rwy'n Caru Aber

Swyddogion yr Undeb Mustapha Tary, Amrywioldeb a Datblygu, Sam Lumb, Llywydd, a Rhys Lewis, Gweithgareddau Myfyrwyr, yn arddangos eu crysau 't' Rwy'n Caru Aber

20 Tachwedd 2007

Dydd Mawrth, 20 Tachwedd 2007
Dwi'n Caru Aber
Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wedi lansio prosiect ymchwil mawr er mwyn cael gwybod paham fod myfyrwyr yn mwynhau astudio yn Aberystwyth gymaint, a barn y bobol leol ar y myfyrwyr.

Mewn ymgyrch wythnos gafodd ei lansio ddydd Llun 12 Tachwedd gofynnwyd i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ymateb i dri datganiad ar gerdyn post; Rwyf yn caru Aber oherwydd…….., Buaswn yn caru Aber yn fwy petai……., a Buasai'r Undeb yn well petai….

Eglurodd Sam Lumb, Llywydd yr Undeb “Mae myfyrwyr sydd wedi bod yn ddigon ffodus i gael dod i Aber wedi mwynhau ‘Profiad Aberystwyth’, rhywbeth a ategwyd gan ganlyniadau arolygon cenedlaethol diweddar. Rydym yn adeiladu ar hyn drwy fanylu ar paham eu bod yn mwynhau astudio yma, ac o bwys mwy, beth all yr Undeb, y Brifysgol a’r Dref ei wneud er mwyn gwneud y profiad yn fwy cadarnhaol byth. Ers cyhoeddi’r ymchwil rydym wedi derbyn cefnogaeth wych ac ymrwymiad gan bawb ac mae ymateb y myfyrwyr wedi bod yn anhygoel.”

Dros gyfnod o 5 diwrnod bu Swyddogion yr Undeb yn holi myfyrwyr am eu profiadau hyd yma,  a cafwyd dros 1100 o ymatebion.  Cynhaliwyd noson ‘Reload Dwi’n Caru Aber’ nos Fercher 14eg lle’r oedd y rhan fwyaf yn gwisgo crysau ‘t’ a bathodynnau ‘Dwi’n Caru Aber’. Cafodd dros 900 o grysau ‘t’ eu gwisgo fel rhan o ymgyrch i godi arian ar gyfer NSPCC a Plant Mewn Angen. Yn ogystal cafwyd sesiwn dynnu lluniau noeth ar gaeau Pantycelyn yn ystod yr wythnos fel rhan o ymgyrch ‘dinoethwch bopeth dros Aber’.

Bellach mae’r Undeb yn paratoi ar gyfer y rhan nesaf o’r cynllun.  Ddydd Sadwrn 1 Rhagfyr bydd Swyddogion Undeb y Myfyrwyr yn gofyn am farn pobl Aberystwyth, yn y dre, ac mewn siopau a thafarndai, er mwyn cael eu hymatebion i dri datganiad: Rwy’n caru myfyrwyr Aber oherwydd....., Buaswn yn caru myfyrwyr aber yn fwy os………, a Buaswn yn hoffi ymwneud mwy â Undeb y Myfyrwyr oherwydd……….

Unwaith y bydd yr ymatebion i’r ddau arolwg wedi eu dadansoddi mae Undeb y Myfyrwyr yn bwriadu mynd ati i edrych yn fanwl ar sut mae gwneud newidiadau ymarferol a fydd yn gwella profiad myfyrwyr yn Aberystwyth.

Am fanylion pellach ar yr ymchwil cysyllter â Sam Lumb, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth. Ffôn 01970 621700 neu sjl@aber.ac.uk.