Ras gyfnewid dros fywyd

Ymchwil Cancr

Ymchwil Cancr

21 Tachwedd 2007

Dydd Mercher 21 Tachwedd 2007
Aberystwyth i gynnal ras gyfnewid ‘Cancer Research Relay for Life'

Ar yr 17eg a'r 18ed o Dachwedd 2007 mynychodd Llinos Thomas a Terry Lynch, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor ‘Cancer Research Relay for Life’ Prifysgol Aberystwyth, drydedd Uwch-gynhadledd Flynyddol ‘Cancer Research Relay for Life’ yn Birmingham.

Roedd 150 o Gadeiryddion o wahanol relaiau ar draws y wlad yn bresennol yn y cyfarfod, gan gynnwys cynrychiolwyr o Brifysgol Birmingham a Lancaster.   Yn y cyfarfod bu Llinos a Terry, sydd yn fyfyrwyr yn Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, yn rhannu eu gofidiau a’u profiadau o drefnu ras gyfnewid prifysgol Cyntaf Prydain yn 2007, ac yn dangos sut y mae myfyrwyr Aber yn arwain yn hyn o beth. 

‘Relay For Life’ yw’r digwyddiad codi arian mwyaf yn y byd a bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ei hail ras gyfnewid ar y 1af o Fawrth 2008 yn y Ganolfan Chwaraeon. Drwy hyn bydd y gymuned yn dod at ei gilydd i gerdded o amgylch y trac am 24 awr er mwyn dangos fod y gwaith o chwilio am driniaeth effeithiol i gancr yn ddiddiwedd.
 
Mae’r arian a fydd y timoedd yn ei gasglu yn hollbwysig ar gyfer gwaith Cancer Research UK. Mae’n cynorthwyo Cancer Research UK i barhau gyda’r gwaith arloesol o safon byd i wella ein dealltwriaeth o gancr a gwybod sut i’w osgoi, ei adnabod a thrin gwahanol fathau.  

Bydd unigolion o bob rhan o’r Brifysgol, yn staff ac yn fyfyrwyr, yn dod at eu gilydd am un diwrnod, un noson ac am un rheswm – y byddant, gyda’u gilydd, yn trechu cancr. Bydd y digwyddiad yn gyfle i deuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr gofio pobl agos atynt a gollwyd oherwydd cancr, dymuno gwellhad i’r rhai sydd yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd, ac i ddathlu gwellhad y rhai sydd wedi dioddef cancr mewn seremoni Cannwyll Gobaith. Dyma’r unig adeg pan fydd y ras gyfnewid yn aros yn llonydd. 

Os ydych am wybod mwy am ‘Relay For Life’ ewch i www.cancer.org.uk/relay, neu cysylltwch â Terry Lynch drwy gyfrwng e-bost, trl5@aber.ac.uk.