Canu ac efelychu eu cymdogion

Telor yr Hesg. Credit: Steve Round (rspb-images.com)

Telor yr Hesg. Credit: Steve Round (rspb-images.com)

27 Tachwedd 2007

Dydd Mawrth 27 Tachwedd 2007
Adar yn efelychu canu eu cymdogion
Er bod y gaeaf yn agosáu ac ymwelwyr yr haf wedi ymadael, wrth glustfeinio ofalus mae modd clywed peth o'r canu i'n hatgoffa am gorws y gwanwyn. Yn rhifyn y mis hwn o’r cyfnodolyn Animal Behaviour mae Dr Rupert Marshall o Brifysgol Aberystwyth a’i gydweithwyr yn datgelu ychydig mwy am weithgareddau cyfrwys ein cyfeillion pluog cerddorol.

Fel arfer mae adar gwryw yn canu er mwyn denu cymar ac nid yw Telor yr Hesg, sydd yn aderyn cyffredin yn aber afon Dyfi yn ystod misoedd yr haf, yn eithriad yn hyn o beth. A dweud y gwir dyma’r unig reswm pam ei fod yn canu. Ac, fel pob carwr drwg, ar ôl dod o hyd i gymar mae’n colli diddordeb yn llwyr ac yn rhoi’r gorau i ganu am weddill y flwyddyn! Ond mae mwy i hyn nac a feddyliwyd tan yn ddiweddar. Mae ymchwil newydd gan Dr Marshall yn awgrymu eu bod yn ceisio dilyn tueddiadau lleol ac efelychu eu cymdogion a newid eu cân, er taw am ddiwrnod neu ddau yn unig y maent yn canu.  

Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio ac wrth i’r gwryw fynd yn hŷn, mae’n gallu chwibanu a thrydar mewn mwyfwy o ffyrdd gwahanol. Er hyn all e ddim newid nifer y caneuon mae’n eu canu yn ystod y tymor cenhedlu, er y byddai hyn yn ei wneud yn llawer mwy deniadol i adar benyw. Felly, drwy efelychu caneuon ei gymdogion mae’n medru amddiffyn ei diriogaeth wrth ddenu’r merched. Efallai nad ydynt am gydnabod hyn ond mae adar, hyd yn oed, yn ceisio cadw i fyny hefo’r Jonesiaid.

Mae copi llawn o’r papur gwyddonol ar gael oddi wrth Dr Rupert C Marshall Ffôn: 01970 - 622320 (oriau swyddfa) Ffacs: 01970 – 623111 Ebost: rmm@aber.ac.uk

Gwybodaeth am yr awdur:
Ymunodd Dr Rupert Marshall â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Aberystwyth o  Brifysgol Gothenburg, Sweden, yn Medi 2006 fel darlithydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid.

Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar ganu adar, dewis cymar a dewis rhyw, gan gynnwys effaith canu ar ffisioleg adar benyw (e.e. lefelau hormonau).

Awduron eraill:
Drs Joanne Nicholson (Royal Holloway, Prifysgol Llundain), Kate Buchanan (Prifysgol Caerdydd) a’r Athro Clive Catchpole (Royal Holloway, Prifysgol Llundain)

Y cyfnodolyn
Mae Animal Behaviour yn gyfnodolyn gwyddonol sydd wedi ei adolygu gan gymheiriaid a’i gyhoeddi gan ‘Association for the Study of Animal Behaviour (ASAB).

Mae ASAB wedi ei chofrestru’n elusen (rhif. 268494) ac yn cyhoeddi’r cyfnodolyn ‘Animal’.