Seicoleg

Dr Kathryn Bullen, Pennaeth Seicoleg

Dr Kathryn Bullen, Pennaeth Seicoleg

01 Awst 2008

Heddiw, dydd Gwener 1af Awst, mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio adran academaidd newydd, yr Adran Seicoleg.

Mae'r adran newydd yn cynnig saith gradd gyfun ar gyfer Medi 2008; Seicoleg a Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Gwleidyddiaeth, Marchnata, Troseddeg, Geneteg a Iechyd Dynol, a Technoleg Gwybodaeth.

Mae bwriad i gyflwyno gradd sengl mewn Seicoleg ar gyfer 2009/2010 yn ogystal â thair gradd gyfun ychwanegol mewn Addysg, Economeg a Hanes.

Dywedodd Pennaeth yr Adran, Dr Kathryn Bullen:
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous, un sydd yn adlewyrchu poblogrwydd cynyddol Seicoleg ymysg israddedigion. Mae cyrsiau seicoleg Aberystwyth yn adeiladu ar gryfderau adrannau academaidd a rhaglenni gradd sydd wedi ennill eu plwyf, ac wedi eu hintegreiddio gyda nhw. Mae ein graddau arloesol yn elwa o'r cyfuniad o bynciau sydd eisoes wedi eu sefydlu a chyfraniad deinamig seicoleg.    

“Pa bynnag gwrs mae myfyriwr yn ei ddewis, mae cyfraniad seicoleg i bob agwedd o fywyd pob dydd yn anferthol. Gwerthfawrogir graddedigion seicoleg am eu hadnabyddiaeth o ymddygiad dynol a’u sgiliau trosglwyddadwy megis y gallu i gynnig dadansoddiad gwrthrychol a beirniadol ynghyd â sgiliau ymchwil gwerthfawr.

“Rydym yn byw mewn byd cystadleuol ac mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr sydd yn gallu gweithio fel aelod o dîm ac fel unigolyn creadigol. Canolbwynt ein cynlluniau graddau seicoleg  yw datblygu potensial pob myfyriwr fel eu bod yn tyfu i fod yn raddedigion sydd yn meddu ar y sgiliau a’r nodweddion y mae marchnad waith yr 21ain yn galw amdano,” ychwanegodd.

Maes ymchwil Dr Bullen yw seicoleg iechyd a meddyginiaeth ac yn arbennig mathau o gancr sydd yn effeithio ar ddynion yn unig. Bu’n gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ers nifer o flynyddoedd, mae’n Is-gadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil GIC De-Orllewin Cymru ac yn ben-seicolegydd i Rwydwaith Cancr De Orllewin Cymru.

Yn ymuno â Dr Bullen mae Dr Rachel Raham, sydd â ddiddordebau ymchwil mewn cymhelliant a newid ymddygiad mewn seicoleg iechyd ac ymarfer corff, Dr I-Chant Chiang o Brifysgol Stamford sydd â diddordebau ymchwil mewn seicoieithyddiaeth a sut mae iaith yn dylanwadu ar y meddwl, a Dr Gareth Hall sydd yn gweithio ym maes hunanieth gymdeithasol prosesau rhwng grwpiau.

Blwyddyn academaidd 2007/2008 oedd y gyntaf i Brifysgol Aberystwyth gynnig cynlluniau gradd mewn seicoleg. O ganlyniad i boblogrwydd y pwnc a’r diddordeb a ddangoswyd yn y graddau seicoleg newydd, mae datblygiadau wedi bod yn gyflym.  

Ceir manylion pellach am yr adran, sydd wedi ymgartrefu yn adeilad Llandinam ar gampws Penglais, a’r cynlluniau gradd ar y wefan http://www.aber.ac.uk/en/psychology/.