Canllaw Canolfannau Hyfforddi Olympaidd

Yr Athro David Lavalle, pennaeth Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff.

Yr Athro David Lavalle, pennaeth Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff.

19 Rhagfyr 2008

Prin chwe blynedd ers iddi gael ei sefydlu, mae rhagoriaeth Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol drwy gael ei chynnwys yng Nghanllaw Campau Hyfforddi Cyn-Gemau y Gemau Olympaidd yn Llundain, sy'n cynnwys cyfleusterau chwaraeon ledled y DU.

Cafodd y canllaw ei anfon at yr holl Bwyllgorau Olympaidd a'r Pwyllgorau Paralympaidd Cenedlaethol yn ddiweddar, a’u penderfyniad nhw fydd ymhle i’w lleoli eu hunain neu ble i anfon athletwyr unigol i baratoi ac ymarfer ar gyfer Llundain 2012.

Yn dilyn proses ddethol drylwyr, lle’r oedd canolfannau yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf technegol llym, bydd yr Adran nawr yn un o’r canolfannau fydd ar gael i’r gwledydd fydd yn cymryd rhan yn y gemau ac fe fydd yn darparu cyfleusterau chwaraeon i athletwyr elît mewn beicio mynydd.

Gyda phedwar llwybr beicio mynydd o safon ryngwladol o fewn 30k i’r dref, mae Prifysgol Aberystwyth mewn sefyllfa dda i gynnig cyfleusterau a gwasanaethau hyfforddi o ansawdd uchel yn y cyfnod cyn y gemau.

Fodd bynnag, nid y lleoliad daearyddol fydd yr unig beth i ddenu’r gwledydd sy’n ceisio cyfleusterau hyfforddi. Fel y dywed y Pennaeth Adran, yr Athro David Lavallee: “Mae ansawdd uchel yr arbenigedd sydd gan staff yr adran, ynghyd â chyfleusterau rhagorol adeilad Carwyn James, â’i labordai sydd wedi’u hachredu’n ddiweddar gan Sefydliad Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain, yn gosod yr adran ymysg y gorau sydd ar gael yn unman.”

Ymhlith y cyfleusterau gwych hyn mae siambr amgylcheddol sy’n caniatáu i’r beicwyr amrywio eu hamgylchedd hyfforddi. Gall yr Athro Lavallee a’i dîm hefyd ddarparu cymorth o safbwynt ffisiolegol, seicolegol a biofecanyddol i’r timau.

Yn ogystal â’r elfennau sy’n benodol wyddonol, bydd timau hefyd wrth gwrs yn gallu manteisio ar gyfleusterau chwaraeon rhagorol ehangach y Brifysgol.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd yr Adran yn targedu rhai o’r gwledydd a fu’n cystadlu yng ngemau Olympaidd Beijing, gan feithrin perthnasau gyda nhw a gweithio i gynllunio rhaglen hyfforddi fydd yn gwella eu perfformiad ac yn adeiladu at y gemau.

Mae hyn eisoes ar waith ac mae llawer hefyd yn cael ei wneud i gydlynu’r cyfleusterau sydd ar gael ar draws Cymru. Cefnogir y gwaith gan Bwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd Llundain sydd yn cynnig hyd at £25,000 i dimoedd a chenhedloedd sydd yn ymweld ag adnoddau a achrededig tebyg i’r rhai sydd yn cael eu cynnig gan Prifysgol Aberystwyth.

Mae David Evans, sy’n gyfrifol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru am gydlynu’r campau yng Nghymru, yn falch o’r hyn sy’n cael ei gynnig: “Mae Canllaw Campau Hyfforddi Cyn-Gemau 2012 yn cynnwys adnoddau chwaraeon o’r ansawdd uchaf ac yn cynnig dewis gwych o leoliadau i dimoedd ac athletwyr unigol y gallant ddewis ohonynt er mwyn paratoi ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain.”

“Mae gweld cynifer o gyfleusterau yn y Canllaw yn dangos ansawdd y cyfleusterau sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn gallu cynnig hinsawdd debyg iawn i’r profion amser yn y Gemau, sydd yn ddeniadol iawn i athletwyr,” ychwanegodd.

Mae’r Athro Lavallee yn edrych ymlaen yn frwd at y gwaith sydd o’i flaen a’r cyfleoedd sy’n cynnig eu hunain. Bydd ganddo dîm da yn gefn iddo: bu un o’i fyfyrwyr ymchwil PhD, Sunghee Park, yn chwarae tennis dros Korea yn y Gemau Olympaidd, ac mae’n aelod o Gomisiwn Olympaidd ei gwlad. Bydd ei phrofiad hi yn hynod o werthfawr.

Heb os, bydd y cyfuniad o leoliad, cyfleusterau ac arbenigedd sydd yn Aberystwyth, ynghyd â’r brwdfrydedd a’r awydd i weld chwaraeon yn datblygu yn profi’n amhrisiadwy i unrhyw wlad neu dîm sy’n penderfynu manteisio ar y pecyn sy’n cael ei gynnig.