AY2008

Dr Dave Barnes o'r Adran gyfrifiadureg lle mae 70% o'r gwaith ymchwil o safon byd-eang neu ragoriaeth ryngwladol

Dr Dave Barnes o'r Adran gyfrifiadureg lle mae 70% o'r gwaith ymchwil o safon byd-eang neu ragoriaeth ryngwladol

18 Rhagfyr 2008

Mae ymchwil o safon fyd-eang wedi ei adnabod mewn 15 o 16 pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ôl canlyniadau Asesiad Ymchwil (AY) 2008 sydd yn cael eu cyhoeddi heddiw – Dydd Iau 18 Rhagfyr.

Mae Prifysgol Aberystwyth bellach yn ail yng Nghymru am safon yr ymchwil ac yn 41 allan o 119 yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl Research Fortnight RAE2008 Quality Index of University Research.

Mae'r canlyniadau yn dangos fod 48% o waith ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth o safon byd-eang neu ragoriaeth ryngwladol ac fod 97.4% o ymchwilwyr yn gweithio mewn disgyblaethau lle mae gwaith ymchwil o safon byd eang yn cael ei wneud.

Mae dros 60% o waith ymchwil mewn pum adran academaidd (1 o bod 3 o'r cyflwyniadau) wedi derbyn gradd 4* (safon fyd-eang yn nhermau gwreiddioldeb, arwyddocâd a chywirdeb) neu 3* (rhagoriaeth rhyngwladol o safbwynt gwreiddioldeb, arwyddocâd a chywirdeb).
  • Cafodd 40% o ymchwil a gyflwynwyd gan yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol radd 4*, sydd yn gosod yr adran yn 3 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol.
  • Cafodd 70% o ymchwil a gyflwynwyd gan yr Adran Cyfrifiadureg radd 4* neu 3*.
  • Cafodd 65% o ymchwil a gyflwynwyd gan Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac Adran y Gymraeg raddau 4* neu 3*.
  • Cafodd 60% o ymchwil a gyflwynwyd gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu raddau 4* neu 3*.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth;
“Rwyf yn fodlon iawn gyda chanlyniadau Asesiad Ymchwil 2008 ac am longyfarch staff academaidd yn gynnes iawn ar yr hyn y maent wedi ei gyflawni. Mae’r gwaith caled o baratoi’r cyflwyniadau wedi dwyn ffrwyth ac mae llwyddiant eithriadol nifer o’n hadrannau yn cadarnhau safon uchel a dylanwad ei hymchwil.”

Cafodd arbenigedd chwech aelod staff o Brifysgol ei gydnabod wrth iddynt gael eu penodi i baneli pwnc Asesiad Ymchwil 2008. Y chwech oedd Yr Athro Ross King (Cyfrifiadureg a Gwybydeg), Yr Athro David Ellis (Rheolaeth Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth), Yr Athro Ken Booth (Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Rhyngwladol), Yr Athro Tim Woods (Astudiaethau Americanaidd ac Astudiaethau Ardaloedd Lle Siaredir Saesneg), Yr Athro Aled Jones (Hanes), a’r Athro Martin Barker (Cyfathrebu, Astudiaethau Diwylliant a’r Cyfryngau).

Diffiniadau o safonau ar gyfer Asesiad Ymchwil 2008:
4*      O safon fyd-eang yn nhermau gwreiddioldeb, arwyddocâd a chywirdeb,
3*      Rhagoriaeth rhyngwladol yn nhermau gwreiddioldeb, arwyddocâd a chywirdeb,
2*      Cydnabyddiaeth rhyngwladol yn nhermau gwreiddioldeb, arwyddocâd a chywirdeb,
1*      Cydnabyddiaeth Genedlaethol yn nhermau gwreiddioldeb, arwyddocâd a chywirdeb,
Di-ddosbarth Gwaith sydd o safon is na’r hyn sydd yn cael ei gydnabod yn genedlaethol. Neu waith sydd ddim yn cyfateb i’r diffiniad o ymchwil a gyhoeddwyd ar gyfer yr asesiad hwn.