Asesiad Ymchwil 2008

Ymchwil yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Ymchwil yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

19 Rhagfyr 2008

Mae'r Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, wedi croesawu canlyniadau Asesiad Ymchwil (AY) 2008 gan ddisgrifio'r canlyniad yn ei gyfanrwydd yn un gwych i’r Brifysgol.

Yn dilyn eu cyhoeddi ddydd Iau 18 Rhagfyr dywedodd yr Athro Lloyd: “Rwyf yn fodlon iawn gyda’r canlyniadau y mae Aberystwyth wedi eu derbyn, a hoffwn longyfarch y staff academaidd yn gynnes iawn ar yr hyn y maent wedi ei gyflawni. Mae’r gwaith caled o baratoi’r cyflwyniadau wedi dwyn ffrwyth gyda’r Brifysgol yn dringo 15 lle yn nhabl cynghrair y Times Higher Education. Mae llwyddiant eithriadol nifer o’n hadrannau yn cadarnhau safonau uchel a dylanwad eu hymchwil.”

Cydlynwyd AY2008 gan gynghorau cyllido Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y canlyniadau yn cael eu defnyddio i bennu'r grantiau ymchwil a ddosberthir ganddynt i bob sefydliad addysg uwch.

Yn Asesiad Ymchwil 2008 roedd pob cyflwyniad ymchwil yn derbyn Proffil Safon sydd yn nodi pa ganran o weithgareddau ymchwil yn y cyflwyniad hwnnw oedd, yn ôl yr asesiad, yn cyrraedd pum lefel ansawdd, o safbwynt gwreiddioldeb, arwyddocâd a chywirdeb: 4* (O safon fyd-eang), 3* (Rhagoriaeth ryngwladol), 2* (Cydnabyddiaeth ryngwladol), 1* (Cydnabyddiaeth Genedlaethol) a Di-ddosbarth.

Mae’r canlyniadau yn dangos fod 85% o’r gweithgareddau ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth o safon ryngwladol a bod ymchwil o safon fyd-eang wedi ei nodi mewn 15 o’r 16 pwnc gafodd eu cyflwyno.

Golyga hyn fod Prifysgol Aberystwyth bellach yn ail i Gaerdydd yng Nghymru o ran safon ymchwil yn ôl dau gyhoeddiad blaenllaw, y Times Higher Education Supplement (THES) a Research Fortnight.

Mae’r Research Fortnight RAE2008 Quality Index of University Research yn gosod Aberystwyth  yn safle 41 allan o 119 yn y Deyrnas Gyfunol, ac yn ôl y THES mae Prifysgol Aberystwyth wedi dringo 15 lle i safle 45 allan o 132 prifysgol.

Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos fod 48% o waith ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol a bod 97.4% o ymchwilwyr yn gweithio mewn disgyblaethau lle mae gwaith ymchwil o safon fyd-eang yn cael ei wneud.

Mae dros 60% o waith ymchwil mewn pum adran academaidd (1 o bob 3 o’r cyflwyniadau) wedi derbyn gradd 4* neu 3*.

Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi parhau â’r perfformiad gwych gafwyd yn AY2001 pan ddyfarnwyd iddi'r radd uchaf posibl, 5*. Gyda 40% o’i gwaith o safon fyd-eang, mae’r adran yn 3ydd yng nghynghrair pwnc ‘Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol’ y THES, ac ar y blaen i Rydychen a’r LSE. Hwn yw’r perfformiad gorau ond un gan adran yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru gyfan.

Mae 70% o’r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno gan yr Adran Gyfrifiadureg o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol a hi yw’r adran orau yng Nghymru ym maes Cyfrifiadureg a Hysbyseg. Canlyniad hyn yw bod yr adran yn gydradd 16eg o 81 yng nghynghrair pwnc y THES.

Mae 65% o’r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno gan y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol. Yn ôl cynghrair pwnc y THES mae’r Sefydliad yn gydradd 11eg yn y Deyrnas Gyfunol allan o 49. 

Yn AY2001 cafodd Adran y Gymraeg ganlyniad gwych ar radd uchaf posibl, 5*. Yn AY2008 cafwyd fod 65% o’r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol. Golyga hyn fod yr Adran yn parhau yn y 4 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol.  

Sefydlodd Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu enw iddi hi ei hun fel un o’r adrannau mwyaf blaengar yn y maes pan ddyfarnwyd gradd ‘5’ iddi yn AY2001. Cafwyd cadarnhad pellach o hyn wrth i 30% o’r ymchwil a gyflwynwyd i AY2008 gael ei dyfarnu o safon fyd-eang, a 30% o ragoriaeth ryngwladol. Yn ôl tabl cynghrair ‘Research Power’ Research Fortnight, mae’r Adran yn 2il yn y Deyrnas Gyfunol.

Uchafbwyntiau eraill
Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn gydradd 6ed yn y DG. Cafwyd fod 95% o’r gwaith ymchwil a gafodd ei gyflwyno o safon ryngwladol, gyda 45% o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol.  

Mae’r Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn 11eg allan o 21 yn y DG. Cafwyd fod 85% o’r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno o safon ryngwladol gyda 50% o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol.

Mae’r Adran Ieithoedd Ewropeaidd yn 8ed allan o 27ain yn y DG ac mae 80% o’r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno o safon ryngwladol gyda 20% o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol.

Cafwyd fod 80% o’r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno gan Adran Hanes a Hanes Cymru o safon ryngwladol gyda 45% o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol.

Cafwyd fod 95% o’r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno gan yr Adran Saesneg o safon ryngwladol gyda 40% o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol.

Cyflwynwyd gwaith ymchwil Sefydliad Mathemateg a Ffiseg o dan ddwy uned asesu, Ffiseg a Mathemateg Bur. Cafwyd fod 85% o ymchwil mewn Mathemateg Bur o safon ryngwladol gyda 40% o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol. Cafwyd fod 70% o waith ymchwil Ffiseg o safon ryngwladol. 

Cafwyd fod 65% o’r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno gan Adran y Gyfraith o safon ryngwladol gyda 35% o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol.

Cafodd gwaith ymchwil yr Ysgol Gelf ei gyflwyno o dan uned asesu Hanes Celf, Pensaernïaeth a Dylunio. Cafwyd fod 65% o’r gwaith o safon ryngwladol gyda 25% o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol.

Cafwyd fod 60% o’r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno gan yr Ysgol Reolaeth a Busnes o safon ryngwladol gyda 25% yn rhagorol yn rhyngwladol.

Cyflwynwyd gwaith ymchwil gan yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff am y tro cyntaf ers ei sefydlu yn 2001. Cafwyd perfformiad da ganddi gyda 65% o’r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno o safon ryngwladol gyda 15% yn rhagori yn rhyngwladol.

Cafodd arbenigedd chwe aelod staff o Brifysgol ei gydnabod wrth iddynt gael eu penodi i baneli pwnc Asesiad Ymchwil 2008, sef yr Athro Ross King (Cyfrifiadureg a Hysbyseg), yr Athro David Ellis (Rheoli Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth), yr Athro Ken Booth (Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol), yr Athro Tim Woods (Astudiaethau Americanaidd ac Astudiaethau Ardaloedd Lle Siaredir Saesneg), yr Athro Aled Jones (Hanes), a’r Athro Martin Barker (Cyfathrebu, Astudiaethau Diwylliant a’r Cyfryngau).