Yr Athro Gerd Althoff

Yr Athro Gerd Althoff

Yr Athro Gerd Althoff

01 Chwefror 2008

Yr Athro Gerd Althoff
Bydd yr academydd blaenllaw o'r Almaen, Yr Athro Gerd Althoff o Brifysgol Munster, yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun yr 11eg o Chwefror.

Bydd yr Athro Althoff yn cynnal gweithdy amser cinio ar y cyd â'r Athro David Trotter (Ieithoedd Ewropeaidd), Dr Peter Jackson (Gwleidyddiaeth Rhyngwladol), Dr Jayne Archer (Llen Saesneg) a’r Athro Er Anrhydedd Richard Rathbone (Hanes a Hanes Cymru) yn Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol rhwng 12 a 2 o’r gloch ar Defodaeth, Symbolaeth a Chymdeithas.

Yna am 5 o’r gloch yn ystafell C43 o Adeilad Hugh Owen bydd yn traddodi darlith i Adran Hanes a Hanes Cymru ar y pwnc “Eironi mewn gwleidyddiaeth ganoloesol”. Mae’r ddau achlysur yn agored i unrhyw un sydd a diddordeb mewn cyfrannu.

Mae’r Athro Althoff yn un o sefydlwyr “Hanes Gwleidyddiaeth Newydd”, hynny yw, dehongliad sydd yn pwysleisio pŵer rhwydweithiau anffurfiol, ar rôl symbolaeth, ar ddefodaeth a mynegiant mewn cysylltiadau gwleidyddol, ac mae hyn wedi dominyddu gwaith ar ddiwylliant gwleidyddol Ewrop gyfandirol dros y rhan helaethaf o’r ugain mlynedd ddiwethaf.

Mae’r Athro Althoff wedi bod yn ddeiliad nifer o gymrodoriaeth ymweld, yn eu mysg Berkley a’r Ecole des Hautes Etudes en Sciences Sociales ym Mharis. Ceir blas o’i waith yn Family, Friends and Followers (Cambridge, 2004), Otto III (State University of Pennsylvania Press, 1999) a’u erthyglau yn Ordering Medieval Society, gol. Bernard Jussen (State University of Pennsylvania Press, 2001).  


Cymal cyntaf taith ddarlithio “Diwylliant Gwleidyddol, 1066-1300” yw’r ymweliad ag Aberystwyth sydd wedi ei threfnu gan Rhwydwaith Ymchwil yr Academi Brydeinig ac sydd yn cael ei rhedeg o Adran Hanes a Hanes Cymru, ac yn cael ei hariannu gan Sefydliad Astudiaethau Canoloesol ac Astudiaethau Hanes Gyfoes Gynnar. Mae’n tanlinellu enw da Aberystwyth fel lleoliad blaengar mewn ymchwil i wleidyddiaeth a diwylliant gwleidyddol, a bywiogrwydd y ffordd amlddisgyblaethol ym mae gwleidyddiaeth yn cael ei astudio yma.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch Bjorn Weiler (bkw@aber.ac.uk)