Cyn-lywydd Y Brifysgol yn trafod Diwygio Ty'r Arglwyddi <br />

Seremoni olaf Elystan Morgan

01 Chwefror 2008

Cyn-lywydd Y Brifysgol yn trafod Diwygio Ty'r Arglwyddi
Bydd Yr Arglwydd Elystan Morgan yn traddodi darlith gyhoeddus ar Ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi ym Mhrifysgol Aberystwyth ar nos Wener 8 Chwefror.

Trefnwyd y ddarlith, sydd yn cael ei chynnal yn Ystafell D5 yn Adeilad Hugh Owen ar gampws Penglais ac yn dechrau am 5 o’r gloch, gan Gymdeithas Ddadlau Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas, Matthew Seys-Llewellyn;
“Bydd Yr Arglwydd Elystan yn trafod sefyllfa gyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi ac yn canolbwyntio’n benodol ar y newidiadau arfaethedig yn sgil Papur Gwyn 2007.”

“Bydd yn mynegi ei farn a’r ddiddymu’r sefydliad, er ei fod yn credu taw diwygio yw’r ffordd orau ymlaen o ystyried llwyddiant Uwch Siambr gyfansoddiadol wannach o safbwynt ailddrafftio ac ymgynghori (gan y gall Tŷ’r Cyffredin wyrdroi dymuniad y Tŷ Uwch os yw Ty’r Arglwyddi yn parhau i wrthod mesur (Deddf y Senedd 1911, Deddf y Senedd diwygiwyd 1949)).

“Bydd yn ystyried patrwm Senedd Iwerddon (Seanad Éireann) ac yn ystyried sut y buasai sustem o fuddiannau cymysg a siambr a grëwyd i gyflawni rôl ymgynghorol yn gweithio yn San Steffan. Bydd ei araith yn cyfuno meddwl miniog cyfreithiwr â phrofiad gwleidyddol yn y Swyddfa Gartref ac, yn naturiol, ei brofiad o sut mae Ty’r Arglwyddi’n gweithio”, ychwanegodd.

Mae’r Gymdeithas Ddadlau yn rhan o Adran Y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol. Ei nod yw rhoi cyfle i fyfyrwyr feithrin eu hadnabyddiaeth o’r gyfraith a chystadlu mewn sefyllfaoedd llys realistig, a chael beirniadaeth gan ddarlithwyr sydd yn arbenigwyr mewn meysydd penodol. Mae hefyd o fudd i aelodau a myfyrwyr eraill gan ei bod yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith ac yn gwahodd darlithwyr allanol.


Yn ogystal mae aelodau yn cystadlu mewn cystadlaethau allanol, ac ar hyn o bryd yn cael llwyddiant yn Moot (cystadleuaeth ddadlau) Gwasg Prifysgol Rhydychen. Agwedd ychydig yn ysgafnach o waith y gymdeithas fydd yr achos yn erbyn Jack (a ddaeth i enwogrwydd yn sgil hanes Jack a’r Goeden Ffa) sydd yn wynebu cyhuddiadau o ladrad a llofruddiaeth.