Cyfnodolyn dwyieithog y gyfraith

Ann Sherlock (dde), Cyfarwyddwraig Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig, Adran y Gyfraith a Throseddeg a Dr Catrin Fflur Huws, Darlithydd yn Adran Y Gyfraith a Throseddeg.

Ann Sherlock (dde), Cyfarwyddwraig Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig, Adran y Gyfraith a Throseddeg a Dr Catrin Fflur Huws, Darlithydd yn Adran Y Gyfraith a Throseddeg.

08 Chwefror 2008

Dydd Gwener 8 Chwefror 2008
Prifysgol Aberystwyth yn arloesi gyda chylchgrawn cyfreithiol dwyieithog

Y mae rhifyn diweddaraf y Cambrian Law Review, cylchgrawn cyfreithiol sydd dan olygyddiaeth staff a myfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn torri tir newydd gan ymddangos am y tro cyntaf mewn 35 mlynedd fel rhifyn dwyieithog.

Credir mai'r rhifyn hwn yw'r cylchgrawn cyfreithiol cyntaf lle cyhoeddwyd yr holl erthyglau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gan hynny, mae’n ffynhonnell arloesol ar gyfer trafodaeth ysgolheigaidd o’r gyfraith drwy gyfrwng y ddwy iaith, ac yn adnodd addysgiadol unigryw.

Cynhadledd yn dwyn y teitl “Ieithoedd Lleiafrifol a’r Gyfraith”, a drefnwyd gan y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ym mis Tachwedd 2006 yw sail y papurau yn y gyfrol hon. Bwriad y gynhadledd, ac yna’r gyfrol, oedd cyflwyno ystod eang o wahanol safbwyntiau ar ieithoedd lleiafrifol a’r hyn sydd yn effeithio ar eu defnydd yn gymdeithasol.

Gan hynny, mae’r gyfrol yn cynnwys cyfraniadau o wahanol awdurdodaethau cyfreithiol - yr Alban, Iwerddon a Chymru, a chan gyfranwyr gyda phrofiadau a safbwyntiau gwahanol.

Serch hyn, ceir amryw o themâu yn gyffredin ar draws y chwe phapur. Cydnabyddir nad oes traddodiad o ymdrin â’r gyfraith drwy gyfrwng yr iaith leiafrifol, ac o ganlyniad ceir diffyg hyder i ddefnyddio’r iaith fel cyfrwng ar gyfer trafod y gyfraith, ac hefyd anawsterau wrth geisio bathu termau cyfreithiol.

Fel yr Adran Gyfraith hynaf yng Nghymru, mae gan Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth rôl allweddol ar gyfer datblygu statws y Gymraeg ym myd y Gyfraith. Rhaid peidio anghofio fod sawl o’r unigolion sydd wedi bod mor allweddol i ddatblygu statws cyfreithiol y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif wedi bod yn fyfyrwyr neu yn ddarlithwyr yn Adran Gyfraith Aberystwyth. 

“Anelwn i adeiladu ar y traddodiad hwn. Mae’r ffaith fod y Cambrian Law Review, a’r Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig wedi creu’r gyfrol ddwyieithog hon yn agwedd bwysig o ddatblygu disgwrs cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg” meddai Ann Sherlock, Cyfarwyddwr y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig.

“Agwedd bwysig arall yw ymrwymiad yr adran i ddatblygu cyfleoedd dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan hynny, rydym yn hynod ffodus fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru trwy’r Ganolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi cyllido ysgoloriaeth i’r adran er mwyn datblygu addysg cyfrwng Cymraeg, a’n bod wedi cael caniatâd gan Lexis Nexis Butterworths, a Chyngor Corfforedig Adroddiadau’r Gyfraith i gyfieithu cynseiliau craidd i’r Gymraeg,” ychwanegodd.

Am ragor o fanylion am gyfrol ddwyieithog y Cambrian Law Review gweler: http://www.aber.ac.uk/clr/.