Aber ar faes yr Eisteddfod

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

31 Gorffennaf 2008

Diemyntau, hapusrwydd, hiwmor, rhywioldeb, gwleidyddiaeth, llenyddiaeth - dyma rai yn unig o'r pynciau fydd yn cael sylw ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf.

Un o uchafbwyntiau wythnos lawn o weithgareddau fydd aduniad y cyn-fyfyrwyr sydd yn cael ei gynnal ar y stondin brynhawn Mercher y 6ed o Awst am 3 o'r gloch. Trefnir y digwyddiad ar y cyd gan y Brifysgol a Chymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr.

Bydd Carwyn Jones AC, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru, yno i ddechrau’r dathliadau ac i rannu rhai o’i atgofion am ei gyfnod fel myfyriwr y Gyfraith yn Aberystwyth ganol yr 80au.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Noel Lloyd;
“Mae gan Aberystwyth le arbennig yn hanes addysg yng Nghymru, ac mae’n bleser mawr gen i estyn gwahoddiad i gyn-fyfyrwyr o bob oed i ymuno gyda ni ar faes yr Eisteddfod i rannu atgofion a dathlu cyfraniad y Brifysgol gafodd ei sefydlu yn 1872.  

“Da hefyd yw cael croesawu Carwyn Jones i agor yr aduniad. Dros y blynyddoedd mae cyn-fyfyrwyr Aberystwyth wedi gwneud cyfraniad pwysig i fywyd cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt ac mae Carwyn Jones yn parhau’r traddodiad gwych hwn. Rwy’n gwbl hyderus hefyd y bydd y cyfraniad i fywyd, diwylliant ac economi Cymru yn parhau i’r dyfodol.

“Mae’r Brifysgol ar drothwy cyfnod cyffrous iawn a fydd yn arwain at greu cenhedlaeth newydd o raddedigion a fydd wedi mwynhau’r profiad academaidd a chymdeithasol unigryw sydd gan Aber i’w gynnig. Un agwedd arbennig o’r datblygiadau newydd yw’r buddsoddiad o £55m yn y gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig dros y pum mlynedd nesaf,” ychwanegodd.

Yn ogystal â’r aduniad, ddydd Llun bydd cyfle i drafod gwaith y cynllun Llên Cymru Ar Daith Drwy’r Byd, dysgu am www.sesh.tv, a gweld ffilmiau byr gan fyfyrwyr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. 

Fore Mercher bydd cyfle i glywed mwy am y Radd Allanol ac yna am 2.00 o’r gloch y prynhawn bydd Euryn Ogwen Williams yn traddodi darlith wedi ei noddi gan Adran Theatr Ffilm a Theledu’r Brifysgol yn y Pagoda. Testun ei ddarlith fydd  ‘Beth wnest ti yn y chwyldro gyfaill?’

Fore Iau ar stondin y Brifysgol bydd yr hanesydd, Dr Russell Davies, yn sôn am ‘Hapusrwydd, Hiwmor a Rhywioldeb y Cymry rhwng 1776 ac 1948’ ac yna yn y prynhawn bydd yr Athro Andrew Evans, Cyfarwyddwr Ymchwil Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn gofyn ‘Ydy hi’n wir bod diemyntau’n para am byth?’

Fore Gwener bydd yr Athro Richard Wyn Jones a’r Athro Roger Scully o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn trafod ‘Gwleidyddiaeth Cymru – O Ddifrif!’, ac i gloi gweithgareddau’r wythnos bydd un o’r grwpiau roc diweddaraf i gael ei ffurfio gan fyfyrwyr o’r Brifysgol, Yr Ods, yn perfformio mewn derbyniad i ddarpar fyfyrwyr.

Y rhaglen lawn o ddigwyddiadau:

Dydd Llun 4ydd o Awst
11am
Llên Cymru Ar Daith Drwy’r Byd
Cyfle i wylio ffilm fer am awduron Cymru dros baned a chacen. Cyfle hefyd i drafod cyfleoedd rhyngwladol i awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr gyda Llenyddiaeth Cymru Dramor, asiantaeth sy’n hyrwyddo cyfieithu llên Cymru'n rhyngwladol.
Rhan o Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant.

2pm
Sesiwn Sesh TV
Mae wedi cael ei ddisgrifio fel yr YouTube Cymraeg – ond beth yn union yw Sesh TV? Dewch draw i weld sut allwch chi fod yn rhan o wefan gyffrous www.sesh.tv. Derbyniad gwin anffurfiol a lluniaeth ysgafn i ddilyn.

10am – 5pm
Myfyrwyr Aber ar y Sgrîn
Trwy’r dydd, byddwn ni’n dangos amrywiaeth o ffilmiau byr gan fyfyrwyr yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Dewch i wylio eu gwaith, mwynhau paned a thrafod ein cyrsiau gradd gydag aelodau o’r staff.   

Yn ystod yr wythnos bydd dau aelod o’r Adran – Eddie Ladd a’r Athro Mike Pearson - i’w gweld yn perfformio ym mhabell Oriel Trace a hynny rhwng 11 y bore a 2 y pnawn ddydd Llun, Mercher, Gwener, a Sadwrn yr Eisteddfod.

Dydd Mercher 6ed o Awst
10am - 12pm
Paned a sgwrs yng nghwmni myfyrwyr y Radd Allanol
Rhwng deg y bore a hanner dydd bydd myfyrwyr y Radd Allanol yn cyfarfod ar stondin y Brifysgol. Dyma gyfle i gael paned a sgwrs gyda’r myfyrwyr, a byddem wrth ein boddau yn gweld rhai o gynfyfyrwyr y cwrs yn galw heibio hefyd.

2pm
Darlith yn y Pagoda
Euryn Ogwen Williams: ‘Beth wnest ti yn y chwyldro gyfaill?’
Ddeng mlynedd yn ôl yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr, traddododd Euryn Ogwen Williams ddarlith ar y dyfodol digidol dan y teitl “Byw Ynghanol Chwyldro”. Erbyn hyn, daeth llawer o’r darogan yn ffaith. Faint o gyfleon a  gollwyd? A beth am gyfleon y deng mlynedd nesaf?
Noddir y ddarlith hon gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Bydd derbyniad i ddilyn ar Stondin Prifysgol Aberystwyth.

3pm
Aduniad Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Dyma gyfle euraidd i gyn-fyfyrwyr o bob oed ac o bob cyfnod i ddod i gwrdd â’i gilydd ym Mhrifwyl y Brifddinas. Darperir lluniaeth ysgafn a chewch gyfle heb ei ail i hel atgofion. Croeso mawr i bawb!

Dydd Iau 7fed o Awst
11am
Darlith gan Dr Russell Davies
‘Hapusrwydd, Hiwmor a Rhywioldeb y Cymry rhwng 1776 ac 1948’
Bydd Dr Davies, awdur y gyfrol arloesol ‘Hope and Heartbreak: A Social History of Wales, 1776-1871’ yn trafod agweddau diddorol ar hanes y Cymry rhwng 1776 ac 1948. Dewch i glywed hanesydd o fri yn trafod hanes mewn dull tra gwahanol i’r arfer.

4pm
Cyflwyniad gan Yr Athro Andrew Evans:
‘Ydy hi’n wir bod deimyntau’n para am byth?’
Dewch i glywed Dr Andrew Evans yn sôn am ryfeddodau’r gemau gwerthfawr hyn. Cewch wybod sut i ddweud y gwahaniaeth rhwng y gwir a’r gau, a darganfod beth i’w wneud gyda deimyntau heblaw am eu gwisgo! Croeso mawr i bawb i ddod i wrando ar y cyflwyniad diddorol hwn.

Dydd Gwener 8fed o Awst
11am
Yr Athro Richard Wyn Jones a’r Athro Roger Scully:
‘Gwleidyddiaeth Cymru – O Ddifrif!’
Bydd y ddau ysgolhaig adnabyddus yn trafod cyfrol y maent yn ei ysgrifennu ar hyn o bryd a fydd yn cynnig gorolwg a dadansoddiad o wleidyddiaeth y Gymru gyfoes. Dewch yn llu - yn ogystal â gwrando, bydd cyfle i holi ac i herio!

3pm
Derbyniad i Ddarpar-Fyfyrwyr
Am dri o’r gloch ddydd Gwener bydd croeso mawr i holl ddarpar-fyfyrwyr 2008 i ddod i ymuno â ni yn y babell am ddiod bach ac adloniant gan y grŵp Yr Ods. Bydd cyfle i chi, a’ch rhieni a ffrindiau, ddod i sgwrsio gyda staff y Brifysgol a chyfarfod â phobl ifanc eraill fydd yn dechrau yn y Brifysgol ym mis Medi.