Cancr y prostad

02 Gorffennaf 2008

Dyfarnwyd cytundeb sylweddol i'r arbenigwyr delweddu See3D, cwmni deillio o'r Brifysgol, er mwyn datblygu modelau cyfrifiadurol soffistigedig a fydd yn cynorthwyo doctoriaid i wella diagnosis a thriniaeth cancr y prostad.

Cyswllt Ffermio

10 Gorffennaf 2008

Dyfarnwyd £825,000 i Ganolfan Organig Cymru, rhan o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol Gwledig, i redeg Rhaglen Datblygu Organig Cyswllt Ffermio.

£23.5m i'r gwyddorau biolegol

21 Gorffennaf 2008

Mae'r Brifysgol wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ei bod am fuddsoddi £23.5m yn y biowyddorau yma yn Aberystwyth

Rheolwr ynni

07 Gorffennaf 2008

Mae David Oldham, rheolwr ynni newydd y Brifysgol, yn ymuno â'r tim wrth i Aber ddringo bron mwy na neb yng Nghyngrhair Werdd 2008 a gyhoeddwyd gan Pobl a'r Blaned.

IBERS Gwybodaeth ac Arloesedd

22 Gorffennaf 2008

Lansiwyd IBERS Gwybodaeth ac Arloesedd yn y Sioe Amaethyddol, cyhoeddiad sydd yn rhoi blas o'r gwaith sydd yn cael ei wneud gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Aber ar faes yr Eisteddfod

31 Gorffennaf 2008

Un o uchafbwyntiau wythnos lawn o weithgareddau gan y Brifysgol ar faes yr Eisteddfod fydd aduniad y cyn-fyfyrwyr brynhawn Mercher y 6ed o Awst am 3 o'r gloch.

'Cwmni Disglair'

29 Gorffennaf 2008

Cyhoeddwyd fod Canolfan y Celfyddydau wedi ennill Dyfarniad Cwmni Disglair gan Cyngor Celfyddydau Cymru, fel rhan o gynllun i gydnabod cwmnioedd ym maes y celfyddydau sydd yn dangos rhagoriaeth ac arloesedd.

Graddio 2008

15 Gorffennaf 2008

Mae Matthew Rhys, seren y ffilm 'The Edge of Love', yn un o wyth Cymrawd sydd yn cael eu hurddo gan y Brifysgol yn ystod y seremoniau graddio eleni.

Graddio

18 Gorffennaf 2008

Eleni gwelodd y Prifysgol Aberystwyth y nifer mwyaf erioed o'i myfyrwyr yn graddio. Yn ystod yr wythnos hefyd urddwyd wyth Cymrawd newydd.

Doethuriaeth Joan

16 Gorffennaf 2008

A hithau yn 82 oed, Joan Hughes sydd yn wreiddiol o Drefdraeth yn Sir Benfro, oedd y fyfyrwraig hynaf i raddio eleni.

Tadau a merched

17 Gorffennaf 2008

Roedd gan ddau dad a'u merched, Dr Alan Axford a Rachel Rahman, a Roger a Jodi Bennet, reswm i dathlu yn ystod y seremoniau graddio.

Graddio yn fyw ar lein

15 Gorffennaf 2008

Mae'r seremoniau graddio, sydd yn dechrau heddiw, i'w gweld yn fyw ar lein.

Gwylio'r Dolffiniaid

01 Gorffennaf 2008

Mae 30 o wirfoddolwyr ac ymchwilwyr o IBERS yn cynnal astudiaeth fanwl o ddolffiniaid trwynbwl yn y dyfroedd oddi ar Aberystwyth.