Unedau creadigol

Argraff arlunydd o'r unedau newydd

Argraff arlunydd o'r unedau newydd

19 Mai 2008

Dydd Llun 19 Mai, 2008
Prosiect adeiladu unigryw gan ddylunydd byd-enwog yn cychwyn yn Aberystwyth

Mae gwaith wedi dechrau ar wyth adeilad arbennig a ddyluniwyd gan Heatherwick Studio i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, sydd yn adran o Brifysgol Aberystwyth. Mae Heatherwick Studio ymhlith cwmnïau dylunio pennaf gwledydd Prydain, ac mae ei phrosiectau gorffenedig yn cynnwys siop fyd-enwog y cwmni brand moethus Longchamp yn Efrog Newydd, Rolling Bridge yn Llundain a chaffi gwobrwyol East Beach yn Littlehampton.

Bydd pob adeilad yn cynnwys dwy uned fusnes i'r celfyddydau creadigol a fydd yn cynnig swyddfeydd a gweithdai am brisiau rhesymol i fentrau celfyddydol ac artistiaid yn y fro. Mae'r datblygiad wedi’i ariannu yn hael gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

Wedi’u llunio o fframiau pren syml, gyda pharwydydd allanol unigryw o ddur gwrthstaen, mae’r adeiladau wedi’u gwasgaru ar draws rhan goediog o gampws Prifysgol Aberystwyth. Heatherwick Studio Construction, sef adain adeiladu’r dylunwyr, sydd wedi ennill y contract i ddarparu’r cynllun. Mae’r gwaith ar y tir yn cael ei wneud gan E Ll Hughes a’i Fab o Aberystwyth a’r elfennau o’r adeiladau a wnaed ymlaen llawn gan Lowfield Timber Frames o’r Trallwng.

Mae’r cynllun eisoes yn denu sylw cyrff creadigol sydd am fanteisio ar weithle unigryw sydd mor agos at ganolfan gelfyddydau mor fywiog. Ein gobaith yw y bydd yr adeiladau hyn yn hwb sylweddol ychwanegol i’r cylch creadigol a diwylliannol sy’n datblygu yn Aberystwyth. Ymhlith y cwmnïau sydd eisoes wedi mynegi diddordeb yn yr unedau mae Llyfrau Honno a Chreu Cymru, sef Asiantaeth Datblygu Genedlaethol i Theatrau a Chanolfannau’r Celfyddydau yng Nghymru.

Defnyddir tair o’r unedau i Gynllun Artistiaid Preswyl Canolfan y Celfyddydau, sef menter pwysig newydd a fydd yn cynnig cyfle i 12 artistiaid gweledol a chymhwysol bob blwyddyn i ddatblygu eu gwaith yn ystod cyfnodau preswyl tri mis. Mae’r cynllun hwn yn cael ei wireddu drwy arian a ddarparwyd gan Sefydliad Esme Fairbairn i artistiaid o wledydd Prydain, a gan Gelfyddydau Cymru Rhyngwladol i artistiaid o dramor.
  
Mae James Morris, un o’r ffotograffwyr pensaernïol mwyaf ei fri, yn cadw cofnod o’r prosiect. Bydd ei waith yn cael ei ddangos fel arddangosfa a fydd yn portreadu’r gwahanol gamau a phrosesau wrth godi’r adeiladau newydd; fe’i dangosir yng Nghanolfan y Celfyddydau ac wedyn mewn orielau ledled gwledydd Prydain.

Dylai artistiaid, artistiaid cymwysedig a chwmnïau’r diwylliannau creadigol sydd â diddordeb mewn cymryd tenantiaeth yn yr unedau gysylltu â Chanolfan y Celfyddydau yn uniongyrchol am ragor o fanylion. 

Sefydlwyd Heatherwick Studio gan Thomas Heatherwick yn 1994 i wireddu prosiectau dylunio unigryw. Heddiw mae tîm o benseiri, dylunwyr a gwneuthurwyr yn gweithio o’r stiwdio a’r gweithdy yn King’s Cross, Llundain – awyrgylch lle y mae reoli a gweithredu prosiectau yn digwydd law yn llaw ag arbrofi â syniadau, deunyddiau a phrosesu gweithgynhyrchu.

Ar hyn o bryd mae’r stiwdio yn gweithio i ailddatblygu canolfan siopa filiwn o droedfeddi sgwâr yn Hong Kong, Pafiliwn Prydain i Expo’r Byd yn Shanghai yn 2010, ac mae wedi cael ei dewis yn ddiweddar i weithio fel rhan o’r tîm sy’n cyflwyno cynllun gwerth £800 a arweinir gan y sector manwerthu yng nghanolfan dinas Lees.

Canolfan Celfyddydau Aberystwyth yw’r Ganolfan Gelfyddydau fwyaf yng Nghymru. A hithau’n adran o Brifysgol Aberystwyth, mae’n cynnig amrywiaeth o raglennu yn y celfyddydau, arddangosfeydd cyfoes a digwyddiadau sydd heb eu hail yn y wlad. Drwy ei rhaglen gymunedol ac addysgiadol yn y celfyddydau gweledol a pherfformiadol, mae’n adnodd gwerthfawr i’r gymuned leol a’r rhanbarth. Drwy ddatblygu’r Unedau Busnes newydd i’r Celfyddydau Creadigol bydd y Ganolfan yn gallu gwneud mwy byth o effaith ar y rhanbarth a datblygu ei rôl ymhellach fel canolfan i ddatblygu busnesau, cynnyrch a gweithgareddau celfyddydol. Bydd hyn yn cyfoethogi bywyd a chymuned Canolfan y Celfyddydau a gwneud cyfraniad sylweddol i’r rhanbarth a’i heconomi, a datblygu’r sylfaen y mae Canolfan y Celfyddydau yn ei rhoi i gymuned gelfyddydol lle y mae syniadau yn gallu ffynnu.

Y prif nod yw cynnig cyfres o stiwdios ac unedau busnes o faint amrywiol i roi cartref i ystod eang o fusnesau creadigol, asiantaethau datblygu’r celfyddydau, artistiaid a chrefftwyr. Un agwedd unigryw o’r datblygiad hwn fydd yr amrywiaeth o fusnesau, gyda phreswylwyr newydd a sefydlog yn cydweithio mewn awyrgylch creadigol ac ysgogol i wireddu eu potensial economaidd a chreadigol.   

Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau parod i’w hargraffu, cysylltwch â Louise Amery yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth (Ffôn: 01970 622889  ebost: lla@aber.ac.uk).