Dysgu gydol oes

Mark Atkinson

Mark Atkinson

30 Ebrill 2009

Dydd Iau 30 Ebrill 2009
Gall dysgu fod wedi ‘achub bywyd Mark'
Roedd astudio Saesneg yn y brifysgol wedi bod yn freuddwyd ar hyd ei oes i Mark Atkinson, ond nid oedd erioed wedi teimlo'n ‘ddigon da’ i gyflawni ei nod.

Nawr cafodd Mark, o Aberystwyth, ei enwebu ar gyfer gwobr Ysbrydoli! Addysg Oedolion y Flwyddyn.

Trefnir y gwobrau gan NIACE Dysgu Cymru, sy’n hyrwyddo addysg oedolion yng Nghymru, ac maent yn cydnabod dysgwyr y mae eu llwyddiannau wedi ysbrydoli neu newid bywyd.

Cyflwynir y gwobrau gan y cyflwynydd teledu Sara Edwards a’r cyn athletydd a seren rygbi Nigel Walker mewn seremoni swmpus ym Mhrifysgol Bangor ar 7 Mai.

Difethwyd bywyd Mark gan gyffuriau ac alcohol, ond pan oedd yn derbyn triniaeth penderfynodd newid ei fywyd a chwilio am ffordd o wneud ei fywyd yn fwy gwerth chweil. Arweiniodd hyn at sgwrs am lenyddiaeth gyda chynrychiolydd ar ymweliad o TRAC, asiantaeth sy’n cynorthwyo rhai’n gadael gofal. Bu’n sgwrs a fyddai’n newid bywyd Mark am byth.

Cafodd Mark gynnig lle ym Mhrifysgol Aberystwyth ond penderfynodd ohirio’r cwrs tan y flwyddyn ddilynol gan ei fod yn dal i dderbyn triniaeth.

Ar ôl sgwrs gyda’r brifysgol, penderfynodd hwyluso dychwelyd i addysg drwy gymryd rhan yn Rhaglen Haf Prifysgol Abertawe.

Gwnaeth cynnydd Mark argraff ar Dr Sue Pester, a’i enwebodd am wobr a ddywedodd: “Ar ôl cynifer o flynyddoedd i ffwrdd o addysg ffurfiol, roedd brwdfrydedd a gallu Mark yn amlwg iawn. Mae’n wirioneddol wrth ei fodd yn dysgu ac yn ogystal â medru gorffen y rhaglen a chael marciau ardderchog, medrodd hefyd gynorthwyo rhai o’r myfyrwyr iau. Yn dilyn y rhaglen, roedd modd i ni argymell fod Mark yn cymryd ei le haeddiannol yn y Brifysgol lle mae wedi parhau i gael marciau gwych a phorthi ei angerdd am ddarllen a dysgu. Ni chredaf fy mod yn gorddweud wrth ddweud i ddysgu achub bywyd Mark.”

Dywedodd Richard Spear, Cyfarwyddwr NIACE Dysgu Cymru: “Mae Mark a’r bobl eraill a enwebwyd am wobr Ysbrydoli! yn bobl ysbrydoledig sydd wedi cyflawni llawer, gyda rhai wedi goresgyn rhwystrau difrifol i ddilyn eu dysgu. Maent hefyd yn cynrychioli miloedd o bobl sy’n sicrhau llwyddiant drwy ddysgu ym mhob rhan o Gymru.”

Cynhelir y Gwobrau i godi’r llen ar Wythnos Addysg Oedolion, gŵyl a dathliad dysgu oedolion fwyaf y Deyrnas Unedig, a chaiff ei chydlynu gan NIACE Dysgu Cymru gyda chyllid craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.

Mae’r wythnos yn rhedeg rhwng 9 a 16 Mai ac yn cynnwys gweithgareddau rhanbarthol a dyddiau thema. I ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal, ffoniwch Cyngor Dysgu a Gyrfaoedd am ddim ar 0800 100 900 neu ymweld â www.gyrfacymru.com.