Ymchwil arlein

Dr Andrew Prescott (PC Llanbedr Pont Steffan) gyda Dr Mike Hopkins a Stuart Lewis o Brifysgol Aberystwyth

Dr Andrew Prescott (PC Llanbedr Pont Steffan) gyda Dr Mike Hopkins a Stuart Lewis o Brifysgol Aberystwyth

20 Chwefror 2009

Dydd Gwener 20 Chwefror 2009
Ymchwil o safon byd o brifysgolion yng Nghymru ar lein

Mi fydd chwilio am waith ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi gan academyddion o Sefydliadau Addysg Uwch yn Nghymru dipyn yn hawddach yn dilyn lansio gwasanaeth ar-lein newydd – Y Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymreig.

Mae'r rhwydwaith, gafodd ei ddatblygu o dan oruchwyliaeth Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru, yn cynnwys 12 cadwrfa brifysgol unigol a grëwyd i arddangos gwaith ymchwil blaengar, sydd wedi ei adolygu gan gyd-academyddion, yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau.  

Cafodd ei lansio yn ffurfiol yn ystod cynhadledd undydd a drefnwyd gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddydd Iau 19eg Chwefror.

Y 12 Sefydliad Addysgu Uwch sydd yn rhan o’r prosiect yw Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Glyndwr, Y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Coleg y Drindod Caerfyrddin, Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru Llambed, Prifysgol Cymru Casnewydd a Sefydliad Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC).  

Yn ystod y lansiad disgrifiodd Mr Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y datblygiad fel “chwildro bychan”, ac yn ôl Dr Andrew Prescott, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, dyma un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol i brifysgolion ers cyflwyno gweisg cyhoeddi prifysgol yn yr 16eg ganrif.

Golyga sefydlu’r Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymreig taw Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol lle y mae pob Sefydliad Addysg Uwch wedi sefydlu cadwrfeydd ar-lein.

Arweiniwyd y gwaith o ddatblygu’r rhwydwaith gan y Dr Michael Hopkins a Stuart Lewis o Brifysgol Aberystwyth a chafodd y cyllid gan JISC, Joint Information Systems Committee.

Dywedodd y Dr Michael Hopkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth;
“Mae’r cadwrfeydd yn fodd i brifysgolion archifo a diogelu eu heiddo deallusol tra’n eu galluogi i sicrhau fod y gwaith ymchwil hwnnw, sydd o’r radd flaenaf, ar gael i’r byd, a thrwy hynny hwyluso lledaeniad ehangach ymwybyddiaeth am y gwaith ymchwil ym Mhrifysgolion Cymru, sydd yn torri tir newydd, drwy’r mudiad Mynediad Agored.”

Roedd Aberystwyth yn un o ddwy brifysgol yng Nghymru i ddatblygu cadwrfeydd ymchwil ar-lein fel rhan o gynllun peilot – y llall oedd Caerdydd. Yn 2008 lansiwyd Cadair (http://cadair.aber.ac.uk/dspace/?locale=cy) gan Aberystwyth, penllanw dwy flynedd o waith. Bellach mae Cadair yn cynnwys manylion am dros 2000 o bapurau ymchwil a gyhoeddwyd mewn meysydd mor amrywiol â Mathemateg a Ffiseg, Cymraeg, Chwaraeon ac Ymarfer Corff a’r Gyfraith.

Mae’r Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymreig hefyd yn gam pwysig tuag at gyflawni un o amcanion agenda Ymgeisio yn Uwch Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol sydd yn galw am fwy o gydweithio a rhanni arbenigedd a phrofiad rhwng Sefydliadau Addysg Uwch.

Rhestr lawn y cadwrfeydd yw:
Prifysgol Aberystwyth http://cadair.aber.ac.uk/
Prifysgol Bangor http://dspace.bangor.ac.uk/dspace/
Prifysgol Caerdydd http://eprints.cf.ac.uk/
Prifysgol Morgannwg http://dspace1.isd.glam.ac.uk/dspace/
Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan http://eisteddfa.lamp.ac.uk/
Prifysgol Cymru Casnewydd http://repository.newport.ac.uk/
Prifysgol Glyndwr http://epubs.glyndwr.ac.uk/  
Y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol http://dspace2.isd.glam.ac.uk/dspace/
Prifysgol Fetropolitan Abertawe http://dspace.smu.ac.uk/
Prifysgol Abertawe http://cronfa.swan.ac.uk/
Coleg y Drindod Caerfyrddin http://dspace.trinity-cm.ac.uk/
Sefydliad Prifysgol Cymru Caerdydd http://repository.uwic.ac.uk/ . 

Cyllido’r Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymreig
Darparwyd £50,000 o gyllid gan JISC tuag at y gost o ddarparu meddalwedd a chaledwedd ar gyfer datblygu’r Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymreig.

Yn ogystal derbyniodd y Rhwydwaith Cadwrfeydd Cymreig gyllid o gronfa £1.4M JISC Prosiect Cefnogi Cadwrfeydd http://www.rsp.ac.uk/project/about. Mae’r Prosiect Cefnogi Cadwrfeydd yn un 2.5 mlynedd er mwyn cydlynu a chyflenwi ymarfer da a chyngor ymarferol i Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a Lloegr er mwyn eu galluogi i weithredu, datblygu a rheoli cadwrfeydd digidol sefydliadol. Mae’r cynllun yn cael ei arwain gan SHERPA, Prifysgol Nottingham, â’r partneriaid craidd yw Prifysgol Aberystwyth, ac UKOLN ym Mhrifysgol Caerfaddon. Partneriaid eraill a gyllidwyd yw Prifysgol Southampton a’r Digital Curation Centre. Mae’r partneriaid yn cynrychioli canolfannau o arbenigedd allweddol ym maes cadwrfeydd, a bydd y cynllun yn adeiladu ar weithgaredd cenedlaethol a rhyngwladol yn y maes.