Cystadleuaeth Ysgoloriaethau Ymchwil Uwchraddedig Aberystwyth 2009

Ymchwil

Ymchwil

19 Ionawr 2009

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd ceisiadau i Gystadleuaeth Ysgoloriaethau Ymchwil Uwchraddedig Aberystwyth 2009.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw'r 1af o Fawrth, ag eithrio Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (pynciau gwyddonol yn unig) 23ain Chwefror 2009 ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, 30ain Ionawr 2009.

Mae'r ysgoloriaethau hyn yn agored i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, ac sydd yn dymuno astudio am radd PhD amser llawn yn Aberystwyth yn yr adrannau canlynol:

Addysg a Dysgu Gydol Oes  
Astudiaethau Gwybodaeth  
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu  
Celf  
Cyfrifiadureg  
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear  
Gwleidyddiaeth Ryngwladol  
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff  
Gwyddorau Biolegol  
Gwyddorau Gwledig
Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol
Hanes a Hanes Cymru
Ieithoedd Ewropeaidd
Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Rheolaeth a Busnes
Seicoleg
Y Gyfraith a Throseddeg
Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i dalu ffioedd y Deyrnas Unedig/Undeb Ewropeaidd, yn meddu ar neu yn disgwyl i ennill o leiaf ail ddosbarth uwch gydag anrhydedd yn eu gradd gyntaf ac fod wedi gwneud cais a chael cynnig lle i astudio ar gyfer gradd doethur yn Aberystwyth.

Mae yna ddeuddeg ysgoloriaeth ar gael a derbynia ymgeiswyr buddugol ysgoloriaeth am hyd at dair blynedd, fydd yn talu am eu costau dysgu (gwerth £3300 y flwyddyn) ac yn rhoi lwfans oddeutu £12600 y flwyddyn. Yn ogystal, gellir cael arian ychwanegol o gronfa neilltuol tuag at gostau teithio a chynadleddau.

Ceir manylion pellach o’r Swyddfa Derbyn Graddedigion; Ffôn: 01970 622270, Ffacs: 01970 622921, E-bost: pg-admissions@aber.ac.uk neu ar lein drwy glicio ar y ddolen Swyddfa Derbyn Graddedigion yn golofn ar ochr dde y dudalen hon.