Tanwydd gwyrdd

Dr Iain Donnison gyda Miscanthus yn y cefndir

Dr Iain Donnison gyda Miscanthus yn y cefndir

27 Ionawr 2009

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn paratoi i chwarae rhan bwysig iawn mewn menter gwerth £27m i ddatblygu tanwydd glan, gwyrdd a chynaliadwy sydd yn cael ei lansio gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnolegol a Biolegol (Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC)) ddydd Mawrth 27 Ionawr 2009.

Mae Canolfan Bio-ynni Cynaliadwy Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnolegol a Biolegol (BSBEC) yn cynrychioli'r buddsoddiad cyhoeddus unigol mwyaf erioed yn y Deyrnas Gyfunol i ymchwil i fio-ynni.  Ei nod yw darparu'r wyddoniaeth a fydd yn sail ar gyfer datblygu’r sector ynni gynaliadwy Brydeinig – a datblygu tanwydd o blanhigion i gymryd lle petrol mewn ceir.

Bydd Dr Iain Donnison o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda gwyddonwyr o Rothamsted Research, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Caergrawnt ar y Raglen Cnydau Bio-Ynni Lluosflwydd (Perennial Bioenergy Crops Programme) – un o Chwe grŵp sydd yn rhan o BSBEC.

Bydd y Raglen Cnydau Bio-Ynni Lluosflwydd yn chwilio am ffyrdd o wella maint y cnwd a geir gan goed a phorfeydd sydd yn tyfu’n gyflym, ac i sicrhau fod mwy o garbon y planhigion ar gael i’w drosi’n fio-danwydd, ac i wneud hyn heb ddefnyddio mwy o wrtaith.

Mae Dr Donnison a’i dîm yn cael eu cydnabod yn arweinwyr byd ym maes datblygu porfeydd ynni, gan gynnwys Miscanthus, neu Borfa Eliffant Asiaidd fel y mae’n cael ei adnabod.

Yn wreiddiol o Dde-Ddwyrain Asia, gall Miscanthus dyfu hyd at 4 metr o daldra ym Mhrydain. Yn ogystal mae’n tyfu yn dda yn yr hinsawdd oerach sydd yma, ar dir llai ffrwythlon ac heb yr angen am wrtaith yn flynyddol. Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf mae’r tîm wedi adeiladu un o’r casgliadau mwyaf o Miscanthus sydd yn bodoli tu allan i Asia.

Caiff ei gynaeafu tu diwedd y gaeaf neu ar ddechrau’r gwanwyn, ac eisoes mae’n cael ei ddefnyddio fel tanwydd ar y cyd gyda glô gan rai o bwerdai mwyaf Prydain. Fel rhan o raglen BSBEC bydd y tîm o Aberystwyth yn datblygu amrywiadau newydd gyda’r nod o gynyddu yn sylweddol faint y cnwd o’r 12 tunnell yr hectar a gynhyrchir ar hyn o bryd.

Pan fydd yn cael ei losgi yn lle glô mae un hectar yn cynhyrchu digon o danwydd i arbed rhwng 5 a 7 tunnell o garbon deuocsid rhag cael ei rhyddhau i mewn i’r amgylchedd.

Croesawyd menter y BBSRC gan yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Rwyf yn falch iawn fod Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu ac yn cydweithio ar brosiectau o’r math yma. Mae rhan y Brifysgol yn y cynllun yn pwysleisio dylanwad rhyngwladol y gwaith ymchwil sydd yn cael ei wneud yma a’i bwysigrwydd yng nghyd-destun newid hinsawdd ar draws y byd.”   

Derbyniodd cyfraniad Aberystwyth gefnogaeth gan yr Arglwydd Drayson, Gweinidog Gwyddoniaeth a Dyfeisgarwch. “Golyga’r swm o £27m taw hwn yw’r buddsoddiad cyhoeddus unigol mwyaf ym Mhrydain i ymchwil i fio-ynni. Dyma’r union fath o ganolfan sydd ei hangen ar y wlad hon er mwyn arwain y ffordd a gwireddu addewid cyffrous bio-danwydd a’i wneud yn dechnoleg sydd ar gael yn eang, ac a all gymryd lle tanwydd ffosil. Mae arbenigedd ac adnoddau IBERS yn golygu fod y sefydliad mewn sefyllfa dda i wneud cyfraniad gwerthfawr i Ganolfan Bio-ynni Cynaliadwy y BBSRC, a chynorthwyo i wneud bio-ynni cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar yn ffaith.”

Dywedodd Dr Iain Donnison: “Mae’r cyhoeddiad hwn gan y BBSRC yn garreg filltir bwysig yn natblygiad bio-danwydd yn y Deyrnas Gyfunol. Math o baneli solar neu fatris yw cnydau bio-danwydd yn eu hanfod. Er enghraifft mae Miscanthus yn dala’r haul ac yn ei gadw mewn ffurf sydd yn hawdd i’w gynaeafu a’i ddefnyddio fel tanwydd, a hynny heb ddefnyddio tir amaethyddol o’r radd flaenaf. Bydd y prosiect hwn yn adeiladu’r wyddoniaeth sylfaenol sydd ei angen i gynyddu maint cnydau bio-ynni a thrwy hynny leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.”

Dywedodd yr Athro Wayne Powel, Cyfarwyddwr IBERS:
“Mae’r dyfarniad hwn yn dangos safon a pherthnasoldeb ein gwaith ymchwil yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn maes sydd o bwys allweddol ar gyfer diogelu cyflenwadau ynni ar draws y byd.”