10 mlwyddiant Prifysgol Haf Cymru

Jake Stong, cynfyfyriwr o Brifysgol Haf Cymru a darparwr newyddion teithio ar BBC Radio Wales.

Jake Stong, cynfyfyriwr o Brifysgol Haf Cymru a darparwr newyddion teithio ar BBC Radio Wales.

07 Gorffennaf 2009

Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2009

Prifysgol Haf Cymru'n dathlu deng mlynedd

Os gwrandewch chi ar y newyddion teithio ar Radio Wales fe glywch chi Jake Strong yn rhoi diweddariad i chi am yr amodau gyrru ar y ffyrdd. Bydd hefyd yn eich gwahodd i ffonio'r orsaf os oes gennych newyddion am y traffig “os yw’n saff ac yn gyfreithlon ichi wneud hynny”.

Nawr mae Prifysgol Haf Cymru’n gwahodd Jake i fod yn rhan o’i dathliadau 10 mlynedd a gynhelir yn Adeilad y Cynulliad yng Nghaerdydd ar yr 8fed o Orffennaf yng nghwmni Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes a degau o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Haf Cymru o bob cwr o Gymru.

Yr Aelod Cynulliad dros Geredigion, Elin Jones, sy’n cynnal y digwyddiad. Mae hi’n adnabod y Brifysgol Haf yn dda.
“Mae Prifysgol Haf Cymru wedi rhoi cyfle i bobl ifanc ddifreintiedig o bob cwr o Gymru ddod i Geredigion a chael blas ar y dysgu rhagorol sy’n mynd yn ei flaen ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan. Mae’n siŵr gennyf fod y rhai hynny sydd wedi cymryd rhan yn y Brifysgol Haf dros y degawd diwethaf wedi gwerthfawrogi’r cyfleoedd a gawsant drwy’r cynllun hwn ac rwy’n llongyfarch y trefnwyr ar gyrraedd y garreg filltir bwysig hon”.

Roedd Prifysgol Haf Gorllewin Cymru, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2000, yn gynllun ehangu mynediad unigryw ac arloesol. Roedd yn targedu pobl ifanc dalentog o gymunedau difreintiedig ar draws Cymru a cheisiai godi lefelau sgiliau a hyder i annog a galluogi’r rhai hynny a oedd yn cymryd rhan i anelu at Addysg Uwch a llwyddo yn y maes hwnnw.

Ar ôl derbyn 29 o fyfyrwyr yn 2000, tyfodd y cynllun ac yn 2004 roedd gan y Brifysgol 154 ac roedd mwy a mwy o athrawon ysgol a gweithwyr ieuenctid o bob cwr o Gymru’n sylweddoli pa mor werthfawr oedd y cynllun i bobl ifanc.

Ddydd Llun 13 Gorffennaf bydd 85 o fyfyrwyr newydd yn dechrau ym Mhrifysgol Haf Cymru 2009, sydd wedi derbyn teirgwaith yn fwy o geisiadau nag sydd o lefydd.

Mae’r Brifysgol hefyd wedi’i chydnabod ar y lefel uchaf bosib. Yn 2001, enwebodd Universities UK hi fel esiampl o arfer gorau yn eu hadroddiad From Elitism to Inclusion ac yn 2005, rhoddodd y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yn San Steffan bryd hynny, Dr Ruth Kelly, gydnabyddiaeth debyg iddi.  

Dywedodd Dr Sue Pester, Cyfarwyddwr Partneriaeth Ehangu Mynediad Gorllewin a Chanolbarth Cymru, ac un o sylfaenwyr y Brifysgol Haf;
“Roedd aros mewn prifysgol, astudio mewn adrannau prifysgol a chymdeithasu â myfyrwyr israddedig wedi’u hyfforddi’n dra gwahanol i bopeth a gynigiwyd cyn hynny. Yn wahanol i’r ysgolion haf undydd yn Lloegr, mae Prifysgol Haf Cymru’n para am chwe wythnos ac mae’n cludo’r myfyrwyr adref bob penwythnos am ddim. Dros y cyfnod hwnnw, mae wedi datblygu dyheadau pobl ifanc ac mae wedi’u helpu nhw i wella’u sgiliau a’u cyflawniadau academaidd.”

“Mae pob myfyriwr sydd wedi bod drwy Brifysgol Haf Cymru’n tystio i’w llwyddiant ac mae dros 75% yn mynd ymlaen i Addysg Uwch. Er gwaetha’r gwaith caled, mae pawb sy’n cymryd rhan yn hoff iawn o’r cynllun ac mae nifer wedi dychwelyd i weithio fel Arweinwyr neu Gydlynwyr. Mae’n galondid arbennig nodi bod nifer wedi mynd eu blaenau i gael gyrfaoedd cyffrous fel cyfreithwyr, athrawon, gweithwyr cymdeithasol a darlithwyr mewn prifysgolion.”

“Dechreuodd Prifysgol Haf Cymru fel prosiect i’r mileniwm ac mae datblygu i fod yn brofiad sy’n newid bywydau miloedd o bobl ifanc yr oedd angen mawr am gymorth arnynt,” ychwanegodd.

Fel rhan o’r dathliadau deng mlynedd, bydd dros 100 o gyn-fyfyrwyr yn dychwelyd i Aberystwyth ar ddydd Llun 6 Gorffennaf i gael aduniad. Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Llanbedr Pont Steffan ac Urdd y Myfyrwyr yn Aberystwyth fydd yn cynnal yr aduniad.