Ofn, panig a'r cyfryngau

Yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth

07 Gorffennaf 2009

Bydd pynciau mor amrywiol ag ofni rhyfeloedd, pobl ifanc a rhyw a'r ffordd y mae'r cyfryngau wedi delio â'r pynciau hyn, o’r papurau newydd cynharaf oll i oes y cyfryngau digidol, yn cael eu trafod yn 23ain Cynhadledd Eilflwydd Cymdeithas Ryngwladol y Cyfryngau a Hanes a gynhelir gan Brifysgol Aberystwyth rhwng yr 8fed a’r 11eg o Orffennaf.

• Bydd haneswyr y cyfryngau pwysicaf y byd yn cwrdd â phobl flaenllaw o ddiwydiant y cyfryngau i ystyried sut mae ein byd wedi’i ddylanwadu gan y modd y mae’r cyfryngau wedi delio â’m hofnau, ein pryderon a’n panig dros y canrifoedd.

• Y prif siaradwyr fydd Syr Quentin Thomas, Llywydd Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain, y corff sy’n rhoi tystysgrifau i ffilmiau.

• Laurence Rees, hanesydd a chynhyrchydd sydd wedi ennill gwobrau lu. Mae ei waith yn cynnwys, ‘The Nazis a Warning From History’.

• Edward Mirzoeff – Cynhyrchydd Teledu a gwneuthurwr ffilmiau dogfen gyda’r BBC sydd wedi ennill gwobrau lu. Mae ei waith yn cynnwys Metro-land, 40 Minutes ac Elizabeth R. 

• Will Wyatt – cyn reolwr gyfarwyddwr Teledu’r BBC a Phrif Weithredwr Darlledu’r BBC. 

Dywed y trefnwyr, Dr Sian Nicholas a’r Athro Tom O’Malley:
“Mae’n bleser mawr gennym gynnal y digwyddiad rhyngwladol hwn sy’n canolbwyntio ar bwnc sydd o ddiddordeb i gynifer o bobl.

“Mae Aberystwyth yn ganolfan astudio hanes a’r cyfryngau, a chan hynny, edrychwn ymlaen at gynnal y digwyddiad pwysig hwn.

“Mae deall sut mae’r wasg, radio a theledu wedi delio â phynciau megis agweddau at afiechydon, rhyfel a goresgyniad yn hollbwysig os ydym am ddeall sut mae pethau wedi datblygu, o’r dyddiau cynnar drwodd i’r oes fodern.”