€1.7m i'r cefndrid Celtaidd

(ch -dde) Nerys Fuller-Love, Cyfarwyddwr Prosiect Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Aled Jones, a Bill O'Gorman, Cyfarwyddwr Prosiect Iwerddon, Sefydliad Technoleg Waterford.

(ch -dde) Nerys Fuller-Love, Cyfarwyddwr Prosiect Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Aled Jones, a Bill O'Gorman, Cyfarwyddwr Prosiect Iwerddon, Sefydliad Technoleg Waterford.

09 Gorffennaf 2009

Mae perchnogion busnesau bach a mentrwyr yng Ngorllewin Cymru a De-ddwyrain Iwerddon yn dod at ei gilydd mewn partneriaeth fentergarol newydd a fydd yn ymdrechu i hybu creadigrwydd, arloesedd a chystadleuaeth, fel rhan o brosiect a lansiwyd yn ddiweddar o'r enw Rhwydweithiau Dysgu Cynaliadwy Iwerddon a Chymru neu SLNIW (Sustainable Learning Networks in Ireland and Wales).

Cafodd y prosiect Rhwydweithiau Dysgu Cynaliadwy ei lansio ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 9 Gorffennaf 2009. Fel rhan o'r prosiect hwnnw, sefydlir chwe rhwydwaith busnes hunanddysgu cynaliadwy yn Iwerddon a Chymru. Y prif nod yw datblygu proses a fydd yn helpu mentrwyr, perchnogion a rheolwyr meicro-fusnesau, a busnesau bach a chanolig eu maint, i wella eu prosesau creadigol, arloesol a chystadleuol, a thrwy hynny, gwella economïau rhanbarthau’r mentrau a’r cwmnïau hynny.

Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth, a Chanolfan Datblygu Menter ac Economïau Rhanbarthol (CEDRE) yn Sefydliad Technoleg Waterford, Iwerddon, fydd partneriaid y prosiect. Arweinir y prosiect gan y Dr. Bill O’Gorman, Cyfarwyddwr Ymchwil CEDRE, a Nerys Fuller-Love, Darlithydd yn Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth.

Esboniodd Cyfarwyddwr y Prosiect, y Dr Bill O’Gorman, ei fod yn brosiect amserol ac arloesol. “Ac ystyried yr hinsawdd economaidd fyd-eang sydd ohoni, mae angen i fentrau gydweithio â’i gilydd o fewn eu rhanbarthau, yn fwy nawr nag erioed o’r blaen, er mwyn gwella datblygu economaidd a chynaliadwyedd y rhanbarthau.

“Ond nid dod â phobl at ei gilydd i rwydweithio yn unig yw’r ateb; yn hytrach mae angen dirfawr inni ddod â mentrwyr, perchnogion a rheolwyr meicro-fusnesau, a busnesau bach a chanolig eu maint, at ei gilydd fel y gallent elwa ar wybodaeth ei gilydd: i ddysgu sut mae manteisio i’r eithaf ar eu hadnoddau; i ysbrydoli creadigrwydd ac arloesedd yn eu mentrau, ac i gynnal y rhinweddau hynny; i gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang; ac i ehangu a chynnal eu mentrau hyd yn oed ar adeg o ddirwasgiad – yn enwedig ar adeg felly. Dyma ddiben prosiect Rhwydweithiau Dysgu Cynaliadwy Iwerddon a Chymru”.

Bydd y rhaglen yn sefydlu tri rhwydwaith dysgu yn Iwerddon a thri yng Nghymru. Bydd pob rhwydwaith yn cyfarfod bob mis am ddeunaw mis. Yn y chwe mis cyntaf rhoddir hyfforddiant a chymorth penodol i aelodau’r rhwydweithiau; yn y deuddeg mis wedyn fe fydd y rhwydweithiau wrthi’n gweithio o’u pen a’u pastwn eu hunain. 

Bydd y partneriaid hefyd yn cynnal pedwar digwyddiad rhwydweithio rhyngwladol (Iwerddon a Chymru) yn ystod y deuddeg mis olaf. Bydd aelodau’r rhwydweithiau yn cyfathrebu wyneb-yn-wyneb bob mis, yn ogystal â chyfathrebu trwy’r rhyngrwyd a’r wefan (http://www.slniw.com).

Mae prosiect y Rhwydwaith yn cael ei ariannu o dan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy raglen INTERREG 4A Iwerddon a Chymru 2007-2013.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan ym mhrosiect y Rhwydweithiau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Anna Prytherch, Cydlynydd y Prosiect yng Nghymru, yn abp@aber.ac.uk neu 01970-622506.