DIVERSE 2009

Diverse 2009

Diverse 2009

11 Mai 2009

Y defnydd o YouTube, podlediadau, technoleg recordio darlithoedd a fideo-gynadledda mewn addysg uwch fydd canolbwynt sylw cynhadledd ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng y 24ain a'r 26ain o Fehefin 2009.

DIVERSE 2009 (Developing Innovative Visual Educational Resources for Students Everywhere) yw'r gynhadledd flynyddol ddiweddaraf ar gyfer academyddion, athrawon, technolegwyr a myfyrwyr ar gyfer trafod y gwahanol ffyrdd o ddefnyddio’r cyfryngau gweledol mewn addysg.

Mae disgwyl i hyd at 180 o gynadleddwyr o Ewrop, gogledd a de America ac Awstralia i fynychu’r gynhadledd yn Aberystwyth. Yn y gorffennol cafodd ei chynnal yn Haarlem (Yr Iseldiroedd), Lillehammer, Glasgow, Nashville, Amsterdam, Derby a Banff yng Nghanada. Cynhelir DIVERSE 2010 yn Portland, Maine, UDA.

John Morgan a Janice de Haaff o Ganolfan Iaith a Dysgu Prifysgol Aberystwyth yw trefnwyr DIVERSE 2009.

Dywedodd John Morgan “Ers mwy na dau ddegawd mae Prifysgol Aberystwyth wedi arloesi yn y defnydd o dechnoleg cyfathrebu a fideo gynadledda ar gyfer dysgu. Felly mae’n addas iawn fod sefydliad rhyngwladol fel DIVERSE, sydd yn ymroddedig i hyrwyddo defnydd o’r cyfryngau gweledol mewn addysg, wedi dewis Aberystwyth ar gyfer ei cynhadledd flynyddol.”

Dywedodd Cadeirydd DIVERSE, Pieter van Parreeren o INHolland University of Applied Sciences, “Mae DIVERSE yn gymuned fyw ac yn edrych ymlaen yn fawr at cael croesawu aelodau a chynadleddwyr i Gymru ac i Aberystwyth. Nod y gynhadledd yw cynnig fforwm fywiog ar gyfer trafod a chyfnewid syniadau a phrofiadau fydd yn ysbrydoli pobl i wthio’r ffiniau o safbwynt y defnydd o dechnoleg weledol er lles pawb sydd yn ymwneud ag addysg, lle bynnag y maent yn y byd.” 

Cadarnhawyd dau sydd yn flaenllaw yn y maes fel prif siaradwyr ar gyfer DIVERSE 2009. 

Mae Obadiah Greenberg yn aelod o dîm partneriaethau strategol gyda YouTube lle mae’n cynorthwyo ysgolion i wneud defnydd effeithiol o’r cyfryngau newydd ar gyfer dysgu ac addysgu, cysylltiadau cyhoeddus a chysylltiadau cymunedol. Bu’n gyfrifol am roi Prifysgol  California Berkeley ar flaen y gad y mudiad cynnwys agored drwy drefnu fod cannoedd o gyrsiau llawn a digwyddiadau ar gael ar y we yn rhad, ac yna yn 2006 ymunodd â Google er mwyn cynorthwyo partneriaid addysg uwch eraill i gyfathrebu drwy YouTube.
 
Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol LearnTle Pty Ltd ywCarol Skyring ac mae wedi bod yn ymwneud gyda dylunio a defnydd effeithiol o dechnoleg ddysgu ar gyfer addysg a busnes ers 1986. Mae’n gweithio gyda phrifysgolion, colegau, ysgolion, adrannau llywodraeth, cwmnïoedd mawr a bach ym mhob rhan o Awstralia, Seland Newydd, UDA ac Ewrop.

Mae manylion llawn am y gynhadledd ar gael ar y wefan http://www.aber.ac.uk/diverse/.
Noder: Mae gostyngiadau ar gyfer cofrestru yn gynnar yn berthnasol tan y 15ed o Fai 2009.

Sefydlwyd DIVERSE fel Ymddiriedolaeth yn yr Iseldiroedd yn dilyn cynhadledd Haarlem yn 2008. Daeth i fodolaeth yn y lle cyntaf fel prosiect Rhaglen Technoleg Dysgu ac Addysgu a gyllidwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr rhwng pedwar sefydliad, Bolton Institute, Prifysgol Derby, Prifysgol Wolverhampton a Sefydliad Addysg Uwch Cheltenham a Gloucester.