Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn

11 Mai 2009

Mark Atkinson, myfyriwr aeddfed yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yw Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn 2009.

Hybu Ymddiriedaeth mewn Byd Niwclear

14 Mai 2009

Dyfarnwyd £538,000 i'r Athro Nicholas Wheeler o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol i gynnal astudiaeth i'r cysyniad o hybu ymddiriedaeth yng nghyd-destun gwladwriaethau sydd ag arfau niwclear a'r rhai sy'n ymarfogi'n niwclear.

Genom rhygwellt

14 Mai 2009

Dyfarnwyd £1.6m i'r Grŵp Geneteg Cnydau, Genomeg a Bridio yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig i ddatblygu map ffisegol o genom rhygwellt parhaol.

Cystadleuaeth y diwydiannau creadigol

06 Mai 2009

Gwahoddiad i staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr i gystadlu am y cyfle i ennill 12 mis mewn un o Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau.

Carreg Filltir Greadigol

21 Mai 2009

Canolfan y Celfyddydau yn dathlu lansio comisiwn pensaerniol eithriadol a fydd yn darparu gofod stiwdio a gweithdai sydd eu gwir angen ar gyfer mudiadau celf yng Nghymru.

Enillwyr Ysgoloriaethau Mynediad 2009

21 Mai 2009

Cyhoeddwyd canlyniadau cystadleuaeth Ysgoloriaethau Mynediad y Brifysgol heddiw, dydd Iau 21 Mai.

DIVERSE 2009

11 Mai 2009

Y defnydd o YouTube, podlediadau, technoleg recordio darlithoedd a fideo-gynadledda mewn addysg uwch fydd canolbwynt sylw cynhadledd ryngwladol yn Aberystwyth ym mis Mehefin.