Amlieithrwydd yn Ewrop?

Yr Athro Ludwig Eichinger

16 Tachwedd 2009

Bydd yr Athro Ludwig Eichinger, Cyfarwyddwr y sefydliad byd-enwog Institut fur Deutsche Sprache (Sefydliad yr Iaith Almaeneg), yn ymweld ag Aberystwyth ddydd Mercher 18ed Tachwedd i draddodi darlith ar rôl yr Almaeneg yn Ewrop.

Gweledigaeth yr Undeb Ewropeaidd yw y dylai pawb fedru tair iaith: ei hiaith ei hun, iaith eu cymydog agosaf, a'r Saesneg; ond mae presenoldeb bythol yr iaith Saesneg yn gymaint fel bod y nod hwn yn anodd i'w gyrraedd - ac nid yr Almaeneg yn unig sydd yn wynebu'r sefyllfa hon.

Gwnaeth siaradwyr yr Almaeneg gyfraniad allweddol tuag at foderneiddio Ewrop o ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen, ac yng nghyd-destun amlieithrwydd o ran y dosbarthiadau addysgedig, hwyluso cyfathrebu o fewn Ewrop gan ddefnyddio o leiaf y Saesneg, Ffrangeg a'r Almaeneg.

Heddiw mae'r tair iaith yma yn parhau i fod y tair iaith dramor sydd yn cael eu dysgu fwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Sut felly y mae iaith fel yr Almaeneg yn cyflyno ei hun mewn sefyllfa lle mae’r Saesneg yn ymddangos yn holl-bwerus, sut mae ei siaradwyr yn ei gweld hi, a pha fath o strategaeth allai arwain at amlieithrwydd ystyrlon newydd?

Bydd darlith yr Athro Eichinger, An old acquaintance in a new milieu - the German language on the European marketplace, yn cael ei chynnal am 6.15 yn A14, Hugh Owen ar ddydd Mercher 18ed Tachwedd.