Diwrnod Hinsawdd Aber

Llyn tawdd ar yr ia yn yr arctig

Llyn tawdd ar yr ia yn yr arctig

27 Tachwedd 2009

Ar ddydd Mercher 2 Rhagfyr bydd Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (SDGD) Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfres o ddarlithoedd ar newid hinsawdd.

NodDiwrnod Hinsawdd Aber, sydd yn agored i bawb, yw codi ymwybyddiaeth am faterion yn ymwneud â newid hinsawdd cyn Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen a fydd yn cael ei chynnal rhwng y 7ed a'r 18ed o Ragfyr 2009.

Bydd prif ddarlith y digwyddiad yn cael ei thraddodi gan Syr John Houghton, CBE, FRS, cyn Brif Weithredwr Swyddfa'r Met a Chyd-gadeirydd yr Asesiad Gwyddonol i'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC). Teitl ei ddarlith fydd “Science, impacts and politics of climate change”.

Yn dilyn darlith Sir John bydd cyfres o ddarlithoedd byr gan aelodau staff o SDGD a Dr Clive McAlpine, Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Ecoleg ym Mhrifysgol Queensland.

Mae traddodwr a phwnc pob darlith fel a ganlyn:
Dr Mark Whitehead, SDGD: Silent Crisis: Food and Water in a Warmer World
Dr Clive McAlpine, Prifysgol Queensland: A continent under stress: Interactions, feedbacks and risks associated with impact of modified land cover on Australia's climate
Prof. Richard Lucas, SDGD: The Role of Earth Observation data in Climate Change Studies
Dr Paul Brewer, SDGD: Are floods getting bigger and more frequent in Wales?
Dr Alun Hubbard, SDGD: Ice and climate – global meltdown?
Prof. Geoffrey Duller, SDGD: The Quaternary record of climate change
Prof. Michael Hambrey, SDGD: Climate change from a geological perspective.

Cynhelir sesiwn y prynhawn yn theatr ddarlithio A12, Adeilad Hugh Owen, ar gampws Penglais a bydd yn dechrau am 2 o’r gloch. Mae’r sesiwn hon yn cynnwys darlith Syr John Houghton (2.15 – 3.00) a’r gyfres o ddarlithoedd byr. Am 6 yr hwyr bydd y digwyddiad yn symud i’r ‘Concourse’ yn Adeilad Llandinam ble bydd cyfle i gyfarfod gyda’r siaradwyr a gweld cyflwyniadau gan fyfyrwyr. Bydd y digwyddiad yn dirwyn i ben am 8 yr hwyr.