Gwobr Addysgu AU

Dr Judith Broady-Preston

Dr Judith Broady-Preston

08 Mawrth 2010

Academydd o Aber yn Cipio Gwobr Addysgu Addysg Uwch

Mae Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill un o wobrau addysgu yr Academi Addysg Uwch.

Dyfarnwyd Gwobr Addysgu 2009-10 yr Academi Addysg Uwch am Addysgu Astudiaethau Gwybodaeth a Chyfrifiadureg mewn Addysg Uwch yng Nghymru i’r Dr Judith Broady-Preston o Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth.  

Nod y wobr yw cydnabod a gwobrwyo athrawon Astudiaethau Gwybodaeth a Chyfrifiadureg sy’n gweithio yn y sector addysg uwch yng Nghymru ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i dwf, datblygiad a gwellhad safonau dysgu yn eu maes. Mae’r wobr hefyd yn fodd o dynnu sylw’r gymuned Astudiaethau Gwybodaeth a Chyfrifiadureg yn gyffredinol at yr hyn y mae athrawon yn ei gyflawni.

Caiff un wobr Astudiaethau Gwybodaeth a Chyfrifiadureg ei dyfarnu’n flynyddol gan yr Academi Addysg Uwch ond dyma’r tro cyntaf iddi gael ei hennill gan academydd o Aberystwyth. Gellid defnyddio’r wobr o £5,000 at ddibenion addysgiadol, gan gynnwys prynu llyfrau ac offer, neu dalu am gostau teithio a threuliau eraill sy’n gysylltiedig gydag addysgu, ymchwil a gweithgareddau proffesiynol eraill.

Dywedodd y Dr Broady-Preston, a ymunodd â staff Prifysgol Aberystwyth University fel Uwch Ddarlithydd ym 1990: “Rwyf wrth fy modd i mi dderbyn y wobr hon. Mae’n gydnabyddiaeth o’n holl ymdrechion yma yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth i ehangu mynediad i Addysg Uwch ac i ddarparu cyfleon dysgu ar gyfer pobl sy’n gweithio a hynny mewn disgyblaeth a phroffesiwn deinamig sy’n newid yn gyflym.”

Dywedodd y Dirprwy Is Ganghellor yr Athro Martin Jones bod y wobr yn adlewyrchiad o safonau addysgu Prifysgol Aberystwyth.

“Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella ein dysgu a’n haddysgu er mwyn gallu cynnig cyfleon dysgu o’r radd flaenaf i fyfyrwyr,” meddai’r Athro Martin Jones.

“Mae gennym strategaeth Dysgu ac Addysgu uchelgeisiol a’n nod yw cefnogi staff ymhob agwedd o’u datblygiad proffesiynol. Rydym felly yn flach iawn bod aelod o’n staff academiadd wedi cael cydnabyddiaeth am ei sgiliau addysgu rhagorol ac rydym yn estyn ein llongyfarchiadau gwresog i’r Dr Judith Broady-Preston.”