Diarfogi niwclear

Y Gwir Anrh. Des Browne

Y Gwir Anrh. Des Browne

01 Ebrill 2010

“The Importance of Political Leadership in Achieving a Nuclear Weapon Free World”

Y Cyn-ysgrifennydd Amddiffyn, y Gwir Anrh. Des Brown, i draddodi Darlith Flynyddol Sefydliad Coffa David Davies ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn dilyn y cytundeb diweddar rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia i leihau nifer yr arfau niwclear, cynhelir darlith arbennig a fydd yn trin byd di-niwclear gan Sefydliad Astudiaethau Rhyngwladol Coffa David Davies (DDMI) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 28ain Ebrill 2010.   

Bydd y Cyn-ysgrifennydd Amddiffyn yn llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown, y Gwir Anrhydeddus Des Browne yn traddodi darlith ar Bwysigrwydd Arweinyddiaeth Wleidyddol wrth Wireddu Byd Heb Arfau Niwclear. 

Cynhelir Darlith Flynyddol 2010 Sefydliad Coffa David Davies am 6 yr hwyr ar ddydd Mercher 28ain Ebrill ym Mhrif Neuadd Adeilad Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar gampws Penglais y Brifysgol.

Ar hyn o bryd mae’r Gwir Anrh. Des Brown yn Gadeirydd uwch grŵp o seneddwyr Prydeinig sydd o blaid diarfogi niwclear amlochrog, ac wedi iddo adael y Senedd yn dilyn yr etholiadau sydd ar fin cael eu cynnal, mae’n bwriadu treulio mwy o amser yn trafod materion yn ymwneud â diarfogi amlochrog a datrys anghydfodau. 

Bydd darllediad fidcast cyflawn o Ddarlith Flynyddol DDMI 2010 I’w chael ar wefan y DDMI, a bydd darlith y Gwir Anrh. Bronwe yn cael ei chyhoeddi mewn rhifyn o International Relations, cyfnodolyn blaenllaw sydd yn cael ei olygu yn yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol. 

Dywedodd yr Athro Nicholas J. Wheeler, Cyfarwyddwr DDMI: “Mae’r cytundeb diweddar rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia, pwerau niwclear mwyaf y byd, yn arwydd digamsyniol o'r hyn y mae arweinyddiaeth gref ac ymroddedig yn gallu ei gyflawni. Mae darlith y Gwir Anrh. Des Browne yn amserol iawn oherwydd proffil uchel materion sydd yn ymwneud â diarfogi niwclear yng ngwleidyddiaeth y byd ac yn y Deyrnas Gyfunol, sy’n parhau i fod yn meddu a’r amddiffynfa niwclear fychan ond arwyddocaol.”

Mae’r ddarlith ar agor i’r cyhoedd a mynediad yn rhad, ond, er mwyn sicrhau lle i eistedd cymhellir pobl i gyrraedd mewn da bryd.