The Importance of Political Leadership in Achieving a Nuclear Weapon Free World

Y Gwir Anrh. Des Browne

Y Gwir Anrh. Des Browne

27 Ebrill 2010

Y Cyn-ysgrifennydd Amddiffyn, y Gwir Anrhydeddus Des Brown, i draddodi Darlith Flynyddol Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn dilyn y cytundeb diweddar rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia i leihau nifer yr arfau niwclear, cynhelir darlith arbennig a fydd yn trin byd di-niwclear gan Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies (DDMI) ym Mhrifysgol Aberystwyth yfory, sef dydd Mercher 28ain Ebrill 2010.   

Bydd y Cyn-ysgrifennydd Amddiffyn yn llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown, y Gwir Anrhydeddus Des Browne, yn traddodi darlith ar Bwysigrwydd Arweinyddiaeth Wleidyddol wrth Wireddu Byd Heb Arfau Niwclear. 

Cynhelir Darlith Flynyddol 2010 Sefydliad Coffa David Davies am 6 yr hwyr ar ddydd Mercher 28ain Ebrill ym Mhrif Neuadd Adeilad Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar gampws Penglais y Brifysgol.

Ar hyn o bryd mae’r Gwir Anrh. Des Brown yn Gadeirydd y Grŵp Lefel Uchaf o Seneddwyr y DG o blaid diarfogi niwclear amlochrog ac yn erbyn amlhau arfau niwclear, ac wedi iddo adael y Senedd yn dilyn yr etholiadau sydd ar fin cael eu cynnal, ei fwriadu yw treulio mwy o amser yn trafod materion yn ymwneud â diarfogi amlochrog a datrys anghydfodau. 

Bydd darllediad fidcast cyflawn o Ddarlith Flynyddol DDMI 2010 i’w gael ar wefan y DDMI, a bydd darlith y Gwir Anrh. Browne yn cael ei chyhoeddi mewn rhifyn o International Relations, cyfnodolyn blaenllaw sydd yn cael ei olygu yn yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol. 

Dywedodd yr Athro Nicholas J. Wheeler, Cyfarwyddwr DDMI: “Mae’r cytundeb diweddar rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia, pwerau niwclear mwyaf y byd, yn arwydd digamsyniol o'r hyn y mae arweinyddiaeth gref ac ymroddedig yn gallu ei gyflawni. Mae pwnc y ddarlith yn amserol iawn oherwydd proffil uchel materion sydd yn ymwneud â diarfogi niwclear yng ngwleidyddiaeth y byd ac yn y Deyrnas Gyfunol. Mae Des Browne mewn safle eithriadol yn sgil ei rôl fel cadeirydd y grŵp sydd yn astudio’r posibilrwydd o wireddu byd heb arfau niwclear.”

Mae’r ddarlith ar agor i’r cyhoedd a mynediad yn rhad, ond, er mwyn sicrhau lle i eistedd cymhellir pobl i gyrraedd mewn da bryd.