Gweinidog yn lansio wythnos cynaliadwyedd

Y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones AC (trydydd o'r dde) gyda staff a myfyrwyr yn ystod brecwast lasio Wythnos Cynaliadwyedd Cymru.

Y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones AC (trydydd o'r dde) gyda staff a myfyrwyr yn ystod brecwast lasio Wythnos Cynaliadwyedd Cymru.

17 Mai 2010

Heddiw, Dydd Llun 17 Mai, ymunodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, â staff a myfyrwyr am frecwast ym Mhrifysgol Aberystwyth i lansio wythnos lawn o weithgareddau i nodi Wythnos Gynaliadwyedd Cymru.

Cafodd y brecwast ei weini ym mwyty gwobrwyedig y Brifysgol, TaMed Da, a dderbyniodd y wobr aur am Ddatblygiad Cynaliadwy yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2009-10.

Ers pedair blynedd bellach mae Kevan Downing, Pennaeth Gwasanaethau Croeso PA, a Huw McConochie, Rheolwr Ffermydd PA, wedi bod yn cydweithio i gyflwyno bwydlen iach i fwytai’r Brifysgol sydd yn cynnwys cig a llysiau o ffermydd y Brifysgol ei hun.

Golyga eu gweledigaeth o gynnyrch lleol o safon fod hyd at 90% o fwyd y Brifysgol bellach yn dod o’i ffermydd ei hun a darparwyr lleol eraill megis Rachel’s Organic a Wyau Birchgrove. Mae hefyd wedi arwain at lleihau’n sylweddol yn nifer y milltiroedd bwyd gyda cig a gynhyrchwyd ar dir y Brifysgol yn teithio 36 milltir yn unig o’r gât i’r plât.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, "Mae'n wych bod Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi Wythnos Gynaliadwyedd Cymru gyda rhaglen o ddigwyddiadau gydol yr wythnos. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithredu yn glir i gefnogi gwerthwyr bwyd mawr, fel y Brifysgol, i greu cysylltiadau â chyflenwyr lleol i gyflenwi bwyd ffres ac iachus yn lleol."

"Mae pobl yn dod yn fwy fwy ymwybodol o effeithiau mewnforio bwyd, ac yn gweld bod dewis bwydydd lleol yn gallu lleihau ein hôl-droed carbon yn ogystal â chefnogi'r economi leol. Yn fwy na hynny, mae gan Geredigion fwyd lleol gwych sy'n rhy dda i'w anwybyddu!"

Dywedodd y Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor, “Rydym yn falch iawn fod y Gweinidog wedi ymuno gyda ni i lansio Wythnos Cynaliadwyedd Cymru yn ein bwyty gwobrwyedig. Mae’r gwaith gwych sydd wedi ei wneud i ddefndyddio mwy o gynyrch lleol ar gyfer ein bwytau yn profi fod modd darparu bwyd o’r safon uchaf a manteision amgylcheddol gwirioneddol o safbwynt nifer y milltiroedd bwyd.” 

“Yn ychwanegol at hyn mae’n tanlinelli ymrwymiad y Brifysgol I leihau ei hol troed carbon  a chodi ymwybyddiaeth ymysg staff a myfyrwyr o sut y gallant hwy gyfrannu hefyd”, ychwanegodd.

Cynryhciolwyr y myfyrwyr yn y lansiad oedd Jeff Smith, Swyddog Yr Amgylchedd a Moeseg, Liam Roberts, Cadeirydd Myfyrwyr Gwirfoddol Aberystwyth, Catherine Beckham, Cydlynydd Gwirfoddoli, Jessica Leigh, Dirprwy Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr a Jon Antoniazzi,l Llywydd Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth.

Yn dilyn y digwyddiad dywedodd Jon Antoniazzi, “

Menter Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Wythnos Gynaliadwyedd Cymru sydd yn gwahodd unigolion a sefydliadau o bob sector a chymunedau i weithredu er mwyn gwneud Cymru yn fwy cynaliadwy, i ddathlu a hyrwyddo'r hyn y maent yn ei wneud yn barod ac i fod yn rhan o rwydwaith sydd yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn Cymru yn fwy cynaliadwy.